Manylion y penderfyniad
Community Asset Transfer Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the impact the
emergency situation has had on the Business Plan for Holywell
Leisure Centre and Cambrian Aquatics
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) a rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed gyda’r ddau Drosglwyddiad Asedau Cymunedol mwyaf a sut mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw. Cafodd Cambria Aquatics ei drosglwyddo yn 2016 a dechreuodd Canolfan Hamdden Treffynnon fasnachu yn 2017. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl ar fanteision hyn i’r Cyngor, yr effaith ariannol arwyddocaol oherwydd y pandemig, ynghyd â’r camau rhagofalus a gymerwyd er mwyn ailagor yn ddiogel. Rhoddodd wybodaeth hefyd am y cynlluniau cymorth grant a’r cyfleoedd ffyrlo. Talodd deyrnged i’r ffordd mae’r sefydliadau hyn wedi cael eu rheoli a bod ganddyn nhw gefnogaeth gref iawn gan gymunedau a theimlai’n hyderus y byddai hyn yn parhau ar ôl y pandemig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at yr anawsterau digynsail mae’r ddau sefydliad wedi eu hwynebu ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu atyn nhw i ganmol gwaith y rheolwyr a’r gwirfoddolwyr am y ffordd maen nhw wedi ymdrin â’r sefyllfa. Cytunodd yr Hwylusydd i anfon llythyr at y ddau sefydliad ar ran y Pwyllgor.
Ymdriniwyd â’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ar wahân. Cafodd yr argymhelliad cyntaf a’r ail un eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White a Mrs. Rebecca Stark. Cafodd y trydydd argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Gladys Healey. Ni wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones gymryd rhan yn y bleidlais ar y trydydd argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnydd y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Cambrian Aquatics yn 2021/22; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon yn 2021/22.
Awdur yr adroddiad: Rachael Corbelli
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: