Manylion y penderfyniad

Borderlands Line Train Services – Additional Services and Potential Impact on Stops (Presentation)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a progress report on developments.

Penderfyniadau:

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod y cyflwyniad hwn wedi'i gynhyrchu yn dilyn cais gan y pwyllgor hwn a'i fod yn darparu gwybodaeth am ddatblygiad a dyheadau'r llinell yn dilyn gweithredu'r fasnachfraint newydd yn 2018. Cadarnhaodd nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am y llinell ond wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau cyfagos, a'r gweithredwr Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu'r llinell. Gyda dyheadau a rennir, byddai'r gwaith yn cysylltu â chynlluniau Metro'r Cyngor. Cadarnhaodd mai Network Rail oedd yn berchen ar y trac a'r signalau, a’r fasnachfraint yn cael ei rheoli gan Drafnidiaeth Cymru, a oedd yn cynnal astudiaeth bwrdd gwaith o'r llinell i sefydlu pa gyfyngiadau a allai rwystro nodau a dyheadau'r llinell.

            Cyflwynodd y Prif Swyddog Alex Fortune, Noddwr Prosiect y Rheilffordd yng Nghymru dros Drafnidiaeth Cymru a weithiodd yn agos gyda Network Rail a chydweithwyr i helpu i gyflawni'r cynlluniau hyn. Dechreuodd Mr Fortune y cyflwyniad manwl i'r pwyllgor a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol: -

Ø  Metro Gogledd Cymru -

·         Trawsnewid gwasanaethau bws a thrên

·         Ei gwneud yn haws a chynt i deithio rhwng Arfordir Gogledd Cymru, Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

·         Gwell cyfnewidfa yn Shotton ar gyfer Llinell Arfordir Gogledd Cymru. 

·         Gorsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy

Ø  Isadeiledd

Ø  Gorsafoedd a’r Defnydd

Ø  Trenau Newydd

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) sylwadau ar faterion lleol streiciau pontydd ac ar y cynigion a osodwyd y llynedd i gynorthwyo i ddelio â'r rhain. Roedden nhw’n digwydd yn rheolaidd ar y llwybr ac roedd yn rhaid delio â'r goblygiadau a achosodd hyn i gymudwyr pan fyddai’n digwydd. Cadarnhaodd mai dyhead y Cyngor oedd bod y llinell hon yn dod yn llinell o bwys i gymudwyr, ac roedd angen iddi fod yn ddibynadwy. Cyfeiriodd at y cais llwyddiannus i roi arwyddion rhyngweithiol ar hyd pob un o'r pontydd isel ar hyd y llwybr a oedd yn cynnwys Cefn-y-Bedd, Shotton a Padeswood ac eglurodd sut y byddai hyn yn gweithio i rybuddio gyrwyr cerbydau uchel.   Yna rhoddodd wybodaeth am y cais a wnaed i godi'r bont neu ostwng y ffordd ac i'r astudiaeth a gynhaliwyd ar y tri safle i ostwng y ffordd.  Nid oedd yn bosibl gostwng y ffordd yn Shotton a Cefn-y-Bedd ac oherwydd materion lleol roedd hyn yn bosibl yn Padeswood.

           

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y ddau welliant i’r orsaf a dywedodd nad oedd Shotton mor ddatblygedig â gorsaf Parkway, a oedd yn rhan o'r Strategaeth Drafnidiaeth Metro. Dywedodd ei bod yn allweddol i ddatblygiad strategaethau integredig i ddatblygu llinell gymudwyr wedi'i chysylltu â Penyffordd gyda gwasanaeth parcio a theithio i annog cymudwyr i beidio â defnyddio eu ceir.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i Mr Fortune a'r Prif Swyddog am y cyflwyniad a oedd yn gadarnhaol iawn. Cododd y cwestiynau canlynol:-

 

·         Y diweddaraf ar ailddatblygu Gorsaf Shotton.

·         Gan gyfeirio at Barcffordd Glannau Dyfrdwy, gofynnodd beth fyddai dyfodol Pont Penarlâg. 

·         O ran Mynediad i'r Anabl, adroddodd ar nifer o faterion a godwyd gan drigolion ynghylch Gorsaf Shotton. Gofynnodd pa fesurau oedd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gorsafoedd hyn yn hygyrch i'r anabl, yn enwedig gan fod y mannau croesi wedi'u blocio.

 

            Ymatebodd Mr Fortune i'r pwynt cyntaf i ddweud y byddai Gorsaf Shotton yn symud ymlaen i Radd 4 o'r mis nesaf ymlaen gan fod cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi hyn. O ran y pwynt ar fynediad i'r anabl, cytunodd fod hwn yn fater yr oedd angen mynd i'r afael ag o. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw groesfannau yn cael eu blocio yn y gorsafoedd ond dywedodd fod Network Rail yn ystyried croesfannau traed fel risg a'u bod yn edrych ar liniaru i ddatrys y broblem hon. Byddai hynny'n golygu defnyddio pont a lifftiau.

 

            Yna cyfeiriodd Mr Fortune at orsaf Pont Penarlâg, nad oedd yn cael ei defnyddio’n aml iawn. Nid oedd yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gau'r orsaf honno. Dywedodd y gallai'r datblygiadau yn Airfields a'r parc diwydiannol gynyddu nifer y teithwyr ar gyfer yr orsaf hon o bosibl.

 

            Adroddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant ar y cais am Ariannu Gwydnwch i ostwng y ffordd yn Padeswood a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn fuan yn Cefn y Bedd a oedd yn cynnwys goleuadau traffig ac arwyddion rhybuddio.  Dywedodd fod y llinell hon hefyd yn cael ei defnyddio gan drenau nwyddau yn Padeswood ac y byddai hyn yn effeithio ar amserlennu.Roedd hi'n falch bod Shotton a Parkway yn symud ymlaen a gyda Penyffordd fel gorsaf hwb o ran parcio, byddai'n ei gwneud hi'n haws i gymudwyr ddefnyddio'r trên a'r bysiau yn hytrach na gyrru. Teimlai mai’r uchelgais fyddai pedwar trên yr awr, ond byddai'n falch iawn gyda dau drên yr awr.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a fyddai'r orsaf ym Maes-glas yn cael ei hystyried yn yr adroddiad hwn. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod yr orsaf hon ar reilffordd yr arfordir felly nid oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, cadarnhaodd fod astudiaeth debyg wedi'i chynnal ar y llinell honno yr oedd yn gobeithio ei chael erbyn diwedd y mis.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i Mr Fortune am y cyflwyniad a gofynnodd a oedd unrhyw gynigion ar gyfer gorsaf Penarlâg ac a oedd hi'n bosibl cynnwys cyfleusterau toiled yn yr orsaf hon yn ogystal â Shotton.

 

Mewn ymateb, cydnabu Mr Fortune fod diffyg cyfleusterau toiled yn broblem. Cadarnhaodd fod cynlluniau ar gyfer gosod cyfleuster toiled newid lleoedd yn Shotton ond dywedodd ei fod yn anodd iawn gan fod rhai gorsafoedd yn rhai heb staff a bod risg o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Roedd LlC eisiau cynyddu nifer y cyfleusterau mewn gorsafoedd ac roedd y rhain yn rhan o'n huchelgeisiau i’w cynnwys mewn gorsafoedd lle bynnag yr oedd hynny'n bosibl.   Yna gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle a oedd hi'n bosibl i Benarlâg ddod yn orsaf â staff, a hefyd a allai gael gwybodaeth am y cynlluniau ar gyfer gwella gorsaf Penarlâg. Mewn ymateb, cadarnhaodd Mr Fortune y byddai'n rhaid iddo ddod yn ôl at y Cynghorydd Hardcastle gan nad oedd ganddo'r wybodaeth am Benarlâg wrth law. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas y cwestiynau canlynol.

 

·         A oedd unrhyw gynigion i drydaneiddio'r llinell o ystyried y cynlluniau i gael gwared â diesel yn raddol? 

·         A fyddai digon o le parcio yn y gorsafoedd hyn?

·         O ran Gorsaf Padeswood, roedd gan y Cynghorydd Thomas bryderon ynghylch gostwng y ffordd gan fod yr ardal hon yn destun llifogydd ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, gyda dim ond cerbydau uchel yn gallu pasio trwyddi.

 

            Mewn ymateb i'r trydydd pwynt, cadarnhaodd y Prif Swyddog eu bod yn ymwybodol o'r problemau llifogydd a bod hwn yn gyfle i fynd i'r afael â nhw. Cadarnhaodd mai’r camau cynnar oedd hyn o hyd ac y byddai angen cyllid i ddatblygu'r prosiect a mynd i'r afael â'r materion llifogydd ar yr un pryd.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr ail bwynt gan ddweud bod parcio yn allweddol i lwyddiant y prosiectau ynghyd â sicrhau bod pob safle wedi'i gysylltu â'r Rhwydwaith Teithio Llesol. Byddai hyrwyddo Penyffordd fel safle parcio a theithio yn galluogi pobl nad ydyn nhw’n gallu cerdded, beicio na defnyddio'r bws i gael mynediad i'r orsaf i barcio eu ceir a defnyddio'r trên i gymudo i'r gwaith.  Byddai'r safleoedd sy’n darparu lle parcio ceir yn cael eu hyrwyddo.

 

            Mewn ymateb i'r pwynt cyntaf, cytunodd Mr Fortune mai trydaneiddio oedd y ffordd ymlaen o ran datgarboneiddio a chludiant mwy gwyrdd. Dywedodd fod y trenau ar hyn o bryd yn cael eu pweru gan ddiesel, a'r trenau 230s newydd yn cael eu pweru gan ddiesel a batri dau-fodd. Roedd trenau wedi'u pweru gan hydrogen yn cael eu hystyried yn y DU gan fod y rhain eisoes yn weithredol yn yr Almaen ac Awstria. Byddai’r rhain yn cysylltu â chynlluniau hwb hydrogen Glannau Mersi. Yna cyfeiriodd Mr Fortune at drenau Rheilffordd Mersi 777 a bwerwyd gan fatri, a oedd yn cael eu defnyddio ar ôl y Pasg. Fodd bynnag, teimlai bod angen trenau trydan i alluogi mynediad i ganol Lerpwl. Cadarnhaodd fod gan LlC a Thrafnidiaeth Cymru gynlluniau ar waith i ddatgarboneiddio’r fflyd. Ar hyn o bryd dim ond dau fath o drenau sydd, diesel a thrydan, ond roedd yr amrywiadau eraill yn gwella a byddai dewisiadau amgen yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i Mr Fortune am y cyflwyniad ac roedd yn edrych ymlaen at weld Gorsaf newydd Parcffordd Glannau Dyfrdwy. Yn ei farn o, byddai’n arwain at fwy o fuddsoddiad ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd a gynhaliwyd trafodaethau gyda Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, ac a oedd wedi cwblhau ei broses recriwtio gyrwyr a gweithwyr ategol wrth symud ymlaen.    Mewn ymateb, cadarnhaodd Mr Fortune fod digon o yrwyr dan hyfforddiant i ddiwallu'r anghenion ar gyfer y cynnydd mewn gwasanaethau eleni ac ar gyfer 2022. Cadarnhaodd ei fod wedi cwrdd â Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a sefydliadau trawsffiniol eraill gan fod y rhanbarth cyfan yn ganolfan economaidd bwysig. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Evans y cwestiynau canlynol:-

 

  • A fyddai'r trenau'n dal i newid yn Bidston yn hytrach na mynd yn uniongyrchol o Wrecsam i Lerpwl? 
  • Dywedodd nad oedd yr amserlenni ar hyn o bryd yn galluogi pobl o Shotton sy'n gweithio er enghraifft yn Ysbyty Wrecsam Maelor, i deithio i'r orsaf ac yna cyrraedd y gwaith am 8.00am.  
  • Roedd y trên olaf yn ôl o Lerpwl i Wrecsam am 10.15m ond os oeddech chi'n mynd i Gaer y trên olaf oedd 11.45pm. Roedd gan Gaer wasanaeth gwell o gymharu â lein y gororau.  A ellid gwneud rhywbeth o ran hyn?

 

            Ymatebodd Mr Fortune i'r pwynt cyntaf gan ddweud bod hwn yn uchelgais hirdymor i fynd i mewn i Lerpwl, a dywedodd mai rhan o'r astudiaeth oedd ymestyn y gwasanaethau ar gyfer Gogledd Penbedw, a fyddai'n darparu 8 trên yr awr i'r ganolfan yn hytrach na 4 yn Bidston.  Roedd yr astudiaeth yn edrych ar sut y gellid cyflawni hyn i gyd-fynd ag amserlen Rheilffordd Mersi.   Mewn ymateb i’r problemau amserlennu, cadarnhaodd yr ymgynghorwyd â chyflogwyr a busnesau mawr ac y byddai’n rhoi adborth i sylwadau’r Cynghorydd Evans i’r Tîm Amserlenni a Budd-ddeiliaid i weld a ellid gwella hyn ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at y cyflwyniad a gofyn y cwestiynau canlynol:-

·      O ran llinell uchaf ac isaf Shotton, sut fyddai'r rhain yn uno, ac a fyddai'r cynigion hyn yn symud yr orsaf ymhellach i'r gogledd. Dywedodd ei fod wedi defnyddio'r orsaf hon a bod y daith gerdded i fynd ar y llinell uchel a cherdded i ganol y dref yn wael ac yn beryglus iawn.

·      O ran yr amserlenni ar gyfer Bidston a Wrecsam a Chaer ac arfordir Gogledd Cymru, roedd bylchau lle byddai teithwyr yn aros am amser hir i ddal trên i arfordir Gogledd Cymru. Dywedodd nad oedd yr orsaf y lle gorau i aros am amser hir am drên.

 

            Mewn ymateb, cytunodd Mr Fortune â'r sylwadau a wnaed ynghylch Shotton a rhoddodd amlinelliad ar sut y byddai'r platfform estynedig yn edrych, ynghyd â'r bont droed a'r cyfleusterau lifft o un platfform i'r llall, a fyddai'n gwella'r amgylchedd cyfan.  Cadarnhaodd mai nod y prosiect metro oedd edrych ar integreiddio'r amserlenni mewn lleoliadau hwb i sicrhau eu bod yn gweithio'n iawn a gwneud pethau’n haws ac yn fwy hygyrch.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Cindy Hinds at y sylwadau a wnaed ar y cynigion i gael gwared ar y croesfannau gwastad. Gofynnodd beth fyddai'n cael ei roi ar waith i alluogi pobl i gyrraedd yr ochr arall, yn enwedig yr anabl, rhieni â choets a ffermwyr a oedd yn gorfod defnyddio'r groesfan reilffordd i fynd i mewn i'w caeau. Mewn ymateb dywedodd Mr Fortune fod hygyrchedd yn ystyriaeth bwysig ac na fyddai croesfannau ar gau nes bod dewis arall addas ar waith, sef lifft a phont droed yn y mwyafrif o achosion, gan mai dyma’r opsiwn fwyaf diogel.  O ran ffermwyr a gweithwyr eraill, byddai hyn eto yn cael ei ystyried yn ofalus ac ni fyddai croesfannau’n cau nes bod opsiwn arall ar waith.

 

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth y pwyllgor ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Growth Track 360 a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, a’i fod yn llefarydd Trafnidiaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Gwnaeth sylwadau ar yr angen i gyflawni cyn gynted â phosibl ar Orsafoedd Parcffordd Glannau Dyfrdwy a Shotton. Os oedd hon am ddod yn llinell i gymudwyr roedd yn rhaid iddi fod yn wydn. Cyfeiriodd at Orsaf Gogledd Penbedw gan ddweud y byddai adfer y platfform ychwanegol yn opsiwn gwell na Bidston. Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai'r gwasanaeth ychwanegol yn wasanaeth pob gorsaf neu a fyddai'n colli rhai gorsafoedd ar hyd y llinell. Croesawodd fwy o drafodaeth ar drafnidiaeth reilffordd yn y dyfodol.  

 

            Adroddodd Aelod y Cabinet ar yr arian ychwanegol a ddarperir gan LlC ar gyfer teithio llesol, beicio a bysiau trydan ond nododd fod arwyddion da, yn enwedig argraffiadau artistiaid yng Ngorsaf Parcffordd, yn darparu gwybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd. Dyma oedd yn allweddol i lwyddiant prosiect Metro Gogledd-ddwyrain Cymru. Cyfeiriodd at drafodaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch byrddau gwybodaeth sy'n gwerthu'r weledigaeth, ynghyd â darparu gwybodaeth ar amserlennu, gwasanaethau bysiau a gwasanaethau eraill gyda logo adnabod unigryw.  Cyfeiriodd wedyn at y canlyniadau ar yr ymgynghoriad yng Ngorsaf Maes Glas, yr oedd hi'n gobeithio y gellid ei drafod yn y pwyllgor cyn gynted ag y byddai'n barod.

 

            Dywedodd Mr Fortune fod cyfathrebu a chael y wybodaeth allan i'r parth cyhoeddus yn allweddol ac, yn anffodus, roedd hyn yn rhywbeth na chafodd ddigon o gyhoeddusrwydd. Roedd gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir a sut i'w defnyddio yn hanfodol i lwyddiant y prosiect ac roedd argraffiadau artist yn ffordd dda o werthu'r weledigaeth. Roedd yn gobeithio na fyddai'n rhy hir cyn y byddai'r rhain yn barod. Yna cyfeiriodd at Orsaf Maes-glas a chadarnhaodd ei fod yn ymwybodol bod y cynllun hwn wedi'i ariannu ar gyfer y cam nesaf i’w ystyried. Mae hefyd ar eu Rhaglen Waith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i edrych ar ddichonoldeb, gan adeiladu ar yr hyn a wnaed hyd yn hyn a mynd ag o drwy weithdrefnau'r rhaglen fuddsoddi. Roedd yn gobeithio y byddai hyn yn symud pethau’n eu blaen.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn diolch i’r cynrychiolwyr o Drafnidiaeth Cymru am eu cyflwyniad ac yn nodi’r cynnwys.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: