Manylion y penderfyniad
Pay Policy Statement for 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
All local authorities are required to publish their Pay Policy Statement by April annually. The Pay Policy Statement presented within this report is the ninth annual Statement published by Flintshire County Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2021/22 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd yn rhwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol.
Wrth grynhoi'r prif newidiadau, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at argymhelliad 2 yn yr adroddiad a dywedodd ei fod yn disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Lywodraeth y DU dynnu’r Rheoliadau Cap Ymadael y Sector Cyhoeddus yn ôl.
Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Billy Mullin i'r swyddogion am yr adroddiad.
Awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid diwygio'r adran ar Honorariwm i gydnabod cyflogeion a oedd wedi'u secondio i rolau eraill yn ystod y sefyllfa argyfwng.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod trefniadau o'r fath yn cael eu gwneud.
Fel yr awgrymwyd gan y Prif Weithredwr, cynigiodd y Cynghorydd Peers y dylid ychwanegu'r geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' at y polisi i adlewyrchu hyn.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Mullin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Carver. Cafodd yr argymhellion eu rhoi i'r bleidlais a'u cynnal. <0}
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo:
(b) Bod y Cyngor Sir yn nodi'r sefyllfa genedlaethol ar y Rheoliadau Cap Ymadael a newidiadau posibl i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a allai olygu newidiadau i Ddatganiadau Disgresiwn ar Bolisïau Tâl a Phensiynau 2021;
(c) Bod y Cyngor Sir yn dirprwyo awdurdod i'r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol i ddiweddaru Datganiad ar Bolisïau Tâl 2021/22 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol fel ei fod yn parhau'n gywir ac yn gyfredol; a
(d) Bod y polisi'n cynnwys y geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' i adlewyrchu sefyllfaoedd lle gall taliadau Honorariwm fod yn berthnasol.
Awdur yr adroddiad: Sharon Carney
Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: