Manylion y penderfyniad
Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive the Annual Audit Summary from the Auditor General for Wales and note the Council’s response.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2019/20 (yr Adroddiad Gwella Blynyddol a'r Llythyr Archwilio Blynyddol gynt) a oedd yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn flaenorol yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, heb unrhyw argymhellion ffurfiol wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn. Roedd cynigion newydd ar gyfer gwella a chynigion ar gyfer datblygu yn deillio o dri o'r adolygiadau.
Rhoddodd Matt Edwards a Gwilym Bury o Archwilio Cymru esboniad ar y fformat newydd, gan ddiolch i swyddogion ac Aelodau am eu hadborth cadarnhaol.
Cododd Sally Ellis ac Allan Rainford gwestiynau ynghylch cyfeirio at strategaeth ariannol ‘risg uchel’ y Cyngor o fewn canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol ledled Cymru. Cytunodd y Prif Weithredwr fod geiriau Archwilio Cymru yn deg a rhesymol. Dywedodd fod y strategaeth wedi llwyddo i gydbwyso'r gyllideb a gwarchod gwytnwch gwasanaethau, er gwaethaf y gwariant ychwanegol a'r incwm a gollwyd o'r sefyllfa frys. O ystyried bod y Cyngor wedi arddangos moderneiddio heb unrhyw arbedion effeithlonrwydd o raddfa yn weddill, y disgwyl oedd rhannu risgiau â Llywodraeth Cymru a cheisio cyllid digonol i fodloni gofynion. Y dull a argymhellir ar gyfer 2021/22 fyddai cydbwyso'r gyllideb heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, gydag ychwanegiad bach wedi'i ddyrannu i adfer cronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd yn ystod y sefyllfa frys.
Fel Arweinydd y Cyngor, amlinellodd y Cynghorydd Roberts yr egwyddorion allweddol wrth bennu cyllideb y Cyngor heb gyfaddawdu cronfeydd wrth gefn na gwariant ar wasanaethau.
Ar ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol, cododd y Cynghorydd Johnson bryderon ynghylch cysondeb ar draws holl gynghorau Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr fod swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr Archwilio Cymru ar gynnwys adroddiadau drafft a bod y geiriad a ddefnyddir ar gyfer Sir y Fflint yn adlewyrchu ei safle cyllid isel yng Nghymru a'i ymrwymiad i ddiogelu gwytnwch gwasanaethau. Byddai gwasanaethau wedi bod mewn perygl pe na bai'r Cyngor wedi dilyn llwybr y strategaeth risg uchel hon.
Cydnabuwyd hyn gan Matt Edwards a ddywedodd fod yr adroddiad yn cydnabod y dull gwahanol a fabwysiadwyd gan y Cyngor a'r sefyllfa heriol wrth gydbwyso'r gyllideb wrth gynnal ansawdd gwasanaethau. Wrth nodi'r sylwadau, sicrhaodd ef a Gwilym Bury ddull cyson o baratoi adroddiadau ar gyfer pob cyngor yng Nghymru.
Siaradodd y Cynghorydd Banks o blaid y derminoleg a oedd yn cydnabod na fyddai'r Cyngor yn peryglu gwasanaethau yng nghyd-destun ei safle cyllid isel.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Axworthy a’r Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: