Manylion y penderfyniad

Y Diweddaraf am Foderneiddio Ysgolion

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with an update on the School Modernisation Programme

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) yr adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar draws nifer eang o brosiectau. Er bod heriau sylweddol wedi bod o ganlyniad i’r sefyllfa argyfwng, roedd y Tîm Moderneiddio Ysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran y Rhaglen ac roeddent wedi cynnal a darparu o fewn terfynau amser a ragwelwyd, trwy addasu dulliau gweithio.

 

            Rhoddodd yr Uwch Reolwr y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau penodol yn y Rhaglen, fel a amlinellir yn yr adroddiad. 

 

            Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y cynnig i sefydlu ffederasiwn rhwng ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir, Ysgol yr Esgob ac ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir, Ysgol Licswm, a dywedodd fod y cydweithredu rhwng y ddwy ysgol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Soniodd hefyd am y cynnig gofal plant yn y ddwy ysgol a diolchodd i’r Uwch Reolwr am ei gefnogaeth o ran sicrhau bod hyn wedi’i gynnwys fel rhan o’r prosiect.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie a fyddai prosiectau ychwanegol yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau Band A a B o’r Rhaglen, a gofynnodd hefyd a ellid darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Ysgol Uwchradd yn Saltney. Gofynnodd hefyd a ellid darparu eglurhad i’r Pwyllgor o ran cyllid MIM. Eglurodd yr Uwch Reolwr fod MIM yn fodel newydd o’r Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat a bod WEPCo yn is-gwmni Banc Datblygu Cymru a’i fod mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru (LlC) hefyd.  Y gyfradd ymyrraeth ganrannol drosfwaol roedd yr awdurdod yn ei chael o hyn oedd 81%. Cadarnhaodd fod hwn yn fodel gwell na’r model traddodiadol lle roedd ysgolion yn cael eu hadeiladu gyda llawer o arian, ac wedyn nid oedd digon o arian i gynnal yr adeiladau.  Roedd y model hwn yn darparu cylch oes 25 mlynedd i’r adeilad, felly pan fyddai’r adeilad yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r awdurdod lleol, roedd mewn cyflwr gwych heb unrhyw broblemau cynnal a chadw.  Dywedodd hefyd y byddai Rhaglen Band C yn dechrau yn 2025, ac roedd gwaith cynllunio wedi dechrau eisoes. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi ar gyfer ymgynghori ar gynigion ar gyfer yr Ysgol Uwchradd yn Saltney, a oedd wedi bod yn anodd oherwydd y sefyllfa argyfwng. Roedd awgrymiadau’n cael eu hystyried o ran darparu’r ddogfen ymgynghori’n electronig i sicrhau lefel uchel o ymgysylltiad. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod y prosiect hwn yn dal i fod yn flaenoriaeth uchel. 

 

Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod lleol wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ysgolion yng ngorllewin Sir y Fflint, a rhoddodd amlinelliad o brosiectau diweddar.

 

Diolchodd Mrs. Wendy White i’r Uwch Reolwr a’i Dîm am ei gefnogaeth. Soniodd am yr angen i ysgolion Catholig ddarparu cyllid 15% fel rhan o brosiect a mynegodd bryderon nad oedd hyn yn bosibl i ysgolion bach. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu lobïo ar hyn o bryd i ailystyried hyn wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau nad oedd ysgolion wedi’u gadael allan oherwydd y diffyg cyllid.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.        

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a chynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

 

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 07/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: