Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee and
to inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft a dywedodd y byddai adborth ffurfiol gan Estyn am Ddysgu Cyfunol yn cael ei gynnwys fel rhan o adroddiad hunanwerthuso’r Gwasanaethau Addysg, i gael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Tynnodd sylw’r Aelodau at adroddiadau a fyddai’n cael eu cyflwyno i gyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 17 Mehefin, a dywedodd fod adroddiad ar Asesu Dwys a Chefnogaeth Therapiwtig, fel a awgrymwyd gan y Cynghorydd Mackie, wedi’i ychwanegu.
O ran olrhain camau gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau, gyda gwybodaeth gan TG am gyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer dysgu digidol, yn aros i gael ei darparu i’r Pwyllgor.
Diolchodd Mr David Hytch i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y wybodaeth a ddosbarthwyd am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned, ond eglurodd fod ei gwestiwn penodol yn ystod y cyfarfod diwethaf wedi bod o ran sut byddai cleientiaid posibl yn cael eu nodi. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai cyrsiau’n cael eu hysbysebu’n ehangach oherwydd cynnydd o ran cyllid a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy, gydag amrywiaeth helaeth o raglenni ar gael i bawb dros 19 oed. Byddai cyrsiau’n cael eu hysbysebu i ddysgwyr wneud cais amdanynt, ond hefyd gallai partneriaid cymunedol gyfeirio neu atgyfeirio – fel Coleg Cambria a Chymunedau am Waith, a oedd yn cael eu cynrychioli ar y bartneriaeth.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 07/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: