Manylion y penderfyniad

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the proposed Housing Revenue Account (HRA) Budget for 2020/21 and the HRA Business Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a Chynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai. Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Rheolwr Cyllid Strategol yn ymwneud â:

 

• Polisi Rhent Llywodraeth Cymru

• Codiad Rhent Arfaethedig 2021/22

• Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhent Ehangach

• Taliadau am Wasanaeth

• Incwm Arall

• Cynnig Buddsoddi i Arbed

• Pwysau ac Effeithlonrwydd Arfaethedig

• Cronfeydd wrth gefn

• Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2021/22

• Buddsoddiad Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai

• Rhaglen Gyfalaf

• Datblygu Safon Ansawdd Tai Cymru diwygiedig

• Rhaglen Gyfalaf 2021/22

• Cyllid Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2021/22

 

Roedd y cynigion a nodwyd yn yr adroddiad yn cwrdd â gofynion y polisi rhent diwygiedig gan Lywodraeth Cymru. Bydd y codiad rhent arfaethedig ar gyfer 2021/22 yn sicrhau na fydd unrhyw denant yn talu mwy na'r uchafswm a ganiateir o dan y polisi. Bydd hyn hefyd yn arwain tuag at fynd i'r afael unwaith eto â'r gwahaniaeth rhwng rhenti sydd unai o dan neu yn cyrraedd y targed, tra’n ceisio gwneud newidiadau rhent tecach i bob tenant. Bydd y cynnig i rewi taliadau gwasanaeth ar gyfer 2021/22 ar y cyfraddau cyfredol yn helpu i amddiffyn tenantiaid. Mae llawer ohonynt yn profi anawsterau ariannol yn sgil y sefyllfa argyfyngus. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i waith pellach gael ei wneud er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gwerth am arian.

 

O ran buddsoddiad y Rhaglen Gyfalaf, byddai’r cynllun busnes yn adlewyrchu dyddiad cau estynedig Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS).  Pennwyd y dyddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r argyfwng cenedlaethol.  Un o’r meysydd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yw creu model ar gyfer datgarboneiddio.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, cafwyd ymateb gan y Prif Swyddog. Cyfeiriodd at y strategaeth fuddsoddi, sydd wedi cynorthwyo i leihau costau ynni yng nghartrefi’r tenantiaid. 

 

Diwygiwyd yr argymhellion er mwyn adlewyrchu’r drafodaeth. Cynigiwyd i’w cefnogi gan y Cynghorydd Lloyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies-Cooke.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn atodiadau’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 0.68% (ynghyd â hyd at £2);

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi codiad rhent garej o £0.20 yr wythnos a chynnydd o £0.03 yr wythnos ar gyfer plot garej;

 

(ch)     Bod y Pwyllgor yn gefnogol i rewi’r cynnydd mewn adferiad Tâl Gwasanaeth am flwyddyn;

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad C yn yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 20/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Accompanying Documents: