Manylion y penderfyniad

Code of Corporate Governance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig sydd i’w gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd mai’r Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliodd adolygiad diweddaru a fformatio’r cod i ddechrau cyn i ymgynghoriad gael ei gynnal gyda’r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, a’r Swyddog Adran 151.  Cymeradwywyd y Cod gan y Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020. Er bod fformat y Cod wedi’i symleiddio ar gyfer 2019/20, dim ond nifer fechan o newidiadau a wnaed i ddiweddaru'r ddogfen. Atodwyd y Cod diwygiedig i’r adroddiad. 

 

Tynnodd y Rheolwr Archwilio Mewnol sylw at saith egwyddor y Cod, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd yr egwyddorion i'w defnyddio gan y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol, y Prif Swyddogion, a Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gynorthwyo'r gwaith o lywio'r paratoadau ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers a oedd yr Aelod Cabinet wedi’i gynnwys yn y ddogfennaeth ddrafft a baratowyd gan y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol i'w hystyried gan y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, a'r Swyddog Adran 151.Cyfeiriodd hefyd at dudalen 21 yr adroddiad ac awgrymodd y dylid ychwanegu dolen rhwng y Pwyllgor Safonau ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Jean Davies a’i eilio gan y Cynghorydd David Wisinger.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo mabwysiadu’r Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 20/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/03/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: