Manylion y penderfyniad
Recovery Strategy (Planning, Environment & Economy Portfolio)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Information Only
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s)
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi trosolwg o’r cynllunio adferiad ar gyfer meysydd portffolio’r Pwyllgor. Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac esboniodd fod fersiynau wedi’u diweddaru o’r gofrestr risg a chamau lliniaru risg ar gyfer y Portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ynghlwm â’r adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog fod diweddariad hefyd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o 14 amcan adferiad y portffolio. Cyfeiriodd at gynnydd ym maes cydymffurfiaeth gyda’r Cynllun Datblygu Newydd, cefnogaeth i amddiffyn canol trefi lleol, cymunedau a busnesau gyda dyletswyddau statudol a gorfodaeth mewn perthynas â Covid-19, lladdwr yr ynn, ac adfer y swyddogaeth Rheoli datblygu.
Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth am y newidiadau i’r gofrestr risg ddiweddaraf a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad a chyfeiriodd at y risgiau canlynol: PE02, PE13, PE14, a PE16.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynllunio adferiad ar gyfer y portffolios Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi; a
(b) Bod cynnwys cofrestr risg ddiweddaraf y portffolio a’r camau lliniaru wedi’u nodi.
Awdur yr adroddiad: Theresa Greenhough
Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Accompanying Documents: