Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2021/22 – 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme 2021/22 – 2023/24 for approval

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2021/22 – 2023/24 i’w gymeradwyo, wedi ei gefnogi gan gyflwyniad PowerPoint.

 

Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn ymdrin â buddsoddiad mewn asedau ar gyfer yr hirdymor i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Roedd yr asedau yn cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), seilwaith (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff) ac asedau nad ydynt yn eiddo i’r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat).  Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig o fewn yr adroddiad wedi eu halinio’n agos at gynlluniau busnes gwasanaeth portffolios a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion a dyledion y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd ganddo’r pwerau i ariannu cynlluniau Cyfalaf drwy fenthyca - dros dro oedd hyn ac yn y pen draw roedd y gost ac ad-dalu unrhyw fenthyca yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.  Roedd cynlluniau a gâi eu hariannu gan fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus o ganlyniad i’r effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair rhan:

 

1.    Statudol / Rheoleiddio - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddio a statudol.

2.    Asedau Cadwedig - dyraniadau i ariannu gwaith ar seilwaith sydd ei angen i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu gwaith.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog fanylion pob un o’r tablau o fewn yr adroddiad a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac a gâi eu cefnogi gan eglurhad yn yr adroddiad ar bob tabl.

 

Rhoddwyd manylion am gynlluniau posibl yn y dyfodol, a chafwyd manylion am y rhain yn yr adroddiad hefyd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Roberts a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Thomas.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwaith a wnaed i ddatblygu’r Rhaglen Gyfalaf.  Dywedodd fod y rhaglen yn dangos dyfnder y cyfranogiad mewn ysgolion, cartrefi gofal, seilwaith a rhwydweithiau TG.  Fe wnaeth sylw ar y canolbwynt i’r digartref, Hwb Cyfle, Ysgol Glan yr Afon, Castell Alun, y cynlluniau ar gyfer ardaloedd Saltney a Brychdyn a Mynydd Isa ar gyfer ysgolion.  Hefyd fe wnaeth sylw ar Marleyfield, y cyfleuster archifau ar y cyd ac ailddatblygu Theatr Clwyd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Thomas gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts a diolchodd i swyddogion am dynnu cyllid cyfalaf drwy’r llwybrau amrywiol a oedd ar gael iddynt.  Eglurodd fod y Cyngor yn aros i glywed y canlyniad ar y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer cynlluniau o dan y cyllid Ysgogi Economaidd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Dunbar gyda’r sylwadau hefyd a mynegodd ei ddiolch am y cyllid ar gyfer ardaloedd chwarae.  Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed ar y pontydd ym Mharc Gwepra.  Gofynnodd beth oedd y cynllun tymor hirach ar gyfer Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod eglurhad cychwynnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yngl?n ag am ba hyd roeddent angen yr adeilad fel yr ysbyty maes dros dro.  Credwyd y gellid datgomisiynu’r ysbyty yn nhrydydd chwarter 2021.  Yn dilyn cau’r ysbyty fe fyddai’r Ganolfan Hamdden yn troi’n ôl i’r hyn ydoedd cyn hynny.  Fodd bynnag, roedd yr adeilad yn dod at ddiwedd ei oes ac roedd ymgynghorwyr wedi eu comisiynu i nodi sut y gallai adeilad newydd fod, gyda mwy o bwyslais ar gyfleusterau iechyd a lles a gwasanaethau cyhoeddus.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Prif Swyddog am yr adroddiad.  Ar dudalen 36, gofynnodd a oedd unrhyw amheuaeth a fyddai’r grant rhwng £0.700m a £0.900m yn cael ei dderbyn.  Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn optimistig fod y grantiau o gwmpas y ffigyrau hynny a nodwyd o fewn yr adroddiad ar y ffordd.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones hefyd beth fyddai’r Cyngor yn ei wneud pe na bai derbyniadau cyfalaf a ragwelwyd yn dod i’r golwg neu os y byddent yn wynebu oedi.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai cynlluniau un ai’n cael eu hail gyflwyno’n raddol, eu gohirio neu y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddefnyddio benthyca darbodus, os yn briodol.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Jones ar gyfleusterau chwaraeon a effeithiwyd ar draws y sir ac yn y cyd-destun hwn Clwb Pêl-droed Tref Bwcle, cytunodd y Prif Swyddog i gyfarfod gyda’r Cynghorydd Jones, gan gadw pellter cymdeithasol, i drafod ymhellach.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey hefyd i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a chroesawodd y cyllid oedd ar gael i Ysgol Uwchradd Castell Alun, gan gynnwys y gwaith i’w wneud ar y toiledau gyda chyllid o gytundeb Adran 106 diweddar.   Fe wnaeth sylw ar y cae pob tywydd yr oedd angen un newydd yn ei le hefyd.   Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn ymwybodol o hynny ac y byddai unrhyw gyfleoedd ariannu yn cael eu hystyried pan fyddent ar gael.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Peers sylw ar y gwaith ar adeiladau ysgolion a’r ôl-groniad o ran gwaith uwchraddio toiledau a dywedodd pe byddai £0.100m y flwyddyn yn cael ei wario ar y gwaith uwchraddio, byddai’n cymryd 15 mlynedd i wneud y gwaith gan yr amcangyfrifwyd y byddai’n costio tua £1.5m  Eglurodd y Prif Swyddog na fyddai’n cymryd 15 mlynedd i gwblhau’r gwaith o adnewyddu toiledau gan yr ymdrinnir ag ychydig o’r gwaith hwn drwy raglen ysgolion a adeiledir o’r newydd y Cyngor a phrosiectau adnewyddu ehangach eraill o fewn ysgolion. 

 

O ran ardaloedd chwarae, gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd gan y Cyngor unrhyw symiau gohiriedig i gynorthwyo gyda chael offer chwarae newydd yn lle’r offer presennol.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod y strategaeth chwarae yn cael ei hadolygu gydag Aura a bod y Cyngor hefyd eisiau adolygu’r polisi cynllunio ar ardaloedd chwarae. 

 

O ran y cyfleuster archifau ar y cyd, gofynnodd y Cynghorydd Peers a fyddai adeilad presennol yr archifdy yn cael ei werthu unwaith y byddai’r cyfleuster newydd ar agor, ac a oedd y cyfleuster newydd i’w ariannu ar sail 50/50 gyda Sir Dinbych a Sir y Fflint.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gwaith cynllunio’n cael ei wneud ar hyn o bryd ar yr adeilad presennol.  Y dyraniad ariannol (CSDd a CSFf) gyda’r prif gyfraniadau yn dod gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Peers sylw ar y gwaith adeiladu a oedd wedi digwydd ym Mhenyffordd, gydag Ysgol Gynradd newydd Penyffordd yn creu nifer cynyddol o ddisgyblion.  O ran y cyfraniadau 106 a fyddai’n cael eu defnyddio i wrthbwyso rhai o’r costau ar gyfer yr estyniad yr oedd ei angen ar yr ysgol, gofynnodd a oedd angen ailedrych ar feini prawf cyfraniad gan ddatblygwyr.   Eglurodd y Prif Swyddog fod hyn yn gwestiwn i’r adran gynllunio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd yna unrhyw fwriad i adolygu ystadau diwydiannol.  Roedd yn ymwybodol o rywun a oedd eisiau uned ddiwydiannol a dywedwyd wrtho nad oedd unrhyw rai ar gael, ac a oedd yna unrhyw le i gynyddu cyflenwad yr unedau. Eglurodd y Prif Swyddog fod ystadau diwydiannol wedi eu meddiannu i raddau helaeth ond y cydnabyddir fod angen ychydig o fuddsoddiad arnynt.

 

Croesawodd stori lwyddiannus Marleyfield a oedd ar gyfer yr holl breswylwyr yn Sir y Fflint a hefyd croesawodd y gwelliannau i’r cyfleuster prosesu ailgylchu sydd wedi ei leoli ym Mwcle.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Swyddog am y cyflwyniad a’r holl swyddogion a fu’n ymwneud â dod â’r Rhaglen Gyfalaf ynghyd.  Fe geisiodd eglurder ar yr amserlenni o ran y cynlluniau ar gyfer Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn y dyfodol a sut y rhoddir gwybod i Aelodau am hynny.  Dywedodd fod yna bryder yn lleol yngl?n â’r cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Hamdden yn y dyfodol gan ei fod yn gyfleuster yr oedd llawer yn hoff ohono.  Roedd yn ymwybodol mai canol Mawrth oedd y dyddiad cau o ran tendrau ar gyfer y cynlluniau arfaethedig yn ymwneud â’r Ganolfan Hamdden yn y dyfodol.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r cynigion o ran y ffi yn cael eu hadolygu ac y byddai gwaith yn cael ei wneud i’w gwerthuso o fewn yr wythnosau nesaf.   Byddai manylion mewn ymateb i’r briff wedyn yn cael eu datblygu gan yr ymgynghorwyr technegol a benodir a byddant yn cael eu rhannu pan fydd holl agweddau’r briff wedi eu bodloni.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y Rhaglen Gyfalaf a oedd yn mynd i’r afael â blaenoriaethau ac anghenion.  Croesawodd yn benodol y buddsoddiad ar gyfer Cadwraeth Adeilad Hanesyddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’r llawr rhew yn cael ei adfer yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy unwaith yr oedd wedi ei ddatgomisiynu fel ysbyty.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sharps fod ymholiad wedi ei wneud gan gwmni ddwy flynedd yn flaenorol a fyddai’n rhyddhau derbyniad cyfalaf ar gyfer y Cyngor ond nad oedd hynny wedi ei ddilyn.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n edrych ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer adrannau Statudol/Rheoleiddio a’r adrannau Asedau a Gedwir o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2021/22 – 2023/24  yn cael eu cymeradwyo:

 

(b)       Fod y cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2021/22 – 2023/24 yn cael eu cymeradwyo;

 

(c)        Y nodir fod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2021/22 yn Nhabl 5 ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd.  Fe fydd dewisiadau yn cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf, grantiau amgen (os oes rhai ar gael), benthyca darbodus neu ail gyflwyno cynlluniau yn raddol yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn ystod 2021/22 a’u cynnwys yn adroddiadau’r Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

 

(d)       Bod y cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 6 yn cael eu cymeradwyo ar gyfer yr adran o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a ariennir yn benodol a fydd yn cael ei ariannu’n rhannol drwy fenthyca.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 25/03/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: