Manylion y penderfyniad
Clwyd Pension Fund Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive an update on the Clwyd Pension Fund including the Annual Report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd adroddiad ar Gronfa Bensiynau Clwyd a’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau a roddodd drosolwg o’r amrywiaeth o wasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan y timau.
Siaradodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau am y rhwymedigaethau statudol wrth gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ac fe aeth ymlaen i amlygu meysydd allweddol megis canlyniad y prisiad actiwaraidd teirblwydd ac effaith y sefyllfa argyfwng.
Fel aelod o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, talodd y Cynghorydd Mullin deyrnged i’r gwaith a wnaed gan y tîm.
Rhoddwyd cyflwyniad ar drefniadau llywodraethu lleol a chenedlaethol y Gronfa yn cynnwys:
· Strwythur Llywodraethu Cronfa Bensiynau Clwyd
· Newidiadau Pwyllgor a Bwrdd
· Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cenedlaethol
· Polisïau a Strategaethau
· Amcanion
· Crynodeb o Chweched Adroddiad Blynyddol y Cynghorydd Annibynnol
· Crynodeb o Chweched Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau
· Edrych i’r Dyfodol
Yn ystod y cyflwyniad, eglurodd Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd y goblygiadau o Argymhellion Llywodraethu Da i’w cyflwyno o flwyddyn nesaf.
Siaradodd y Prif Weithredwr am gymhlethdod y Gronfa a’i threfniadau llywodraethu cadarn. Diolchodd i’r swyddogion, yn enwedig i’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau a’i thîm am y gwelliannau a oedd wedi cael eu gwneud yn y maes hwnnw.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r tîm am eu cyflwyniad. Cynigodd yr argymhellion ac fe gefnogwyd y rheini gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2019/20, nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau penodol i’w gwneud; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd meysydd penodol o bryder a oedd angen mwy o wybodaeth yn y diweddariad nesaf.
Awdur yr adroddiad: Philip Latham
Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: