Manylion y penderfyniad

Council Plan 2020/21 development process

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To consider development of the proposed Council Plan for 2020/21 with focus on the Committee’s respective portfolios.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygiad Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan ganolbwyntio ar bortffolios perthnasol y Pwyllgor.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cafodd y blaenoriaethau strategol brys ar gyfer adfer y portffolios eu tynnu o Gynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 a’u mabwysiadu yn ystod ail hanner 2020/21. Byddai Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn parhau i ystyried adferiad a byddai yn cael ei adeiladu o amgylch chwe thema a awgrymwyd gan y Cabinet:

 

·         Economi

·         Addysg a Sgiliau

·         Yr Amgylchedd

·         Tai

·         Lles Personol a Chymunedol

·         Tlodi

 

Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig  yn adlewyrchu gwaith allweddol ar y meysydd hyn.  Roedd yr ymgynghoriad gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi’i drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd gan arwain at fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Ebrill / Mai 2021.  Mewn ymateb i bwynt cynharach y Cynghorydd Jones, er bod aliniad clir gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y pum thema cyntaf, roedd meysydd o dan y thema Tlodi yn ehangach ac yn ymestyn ar draws bortffolios.

 

Cydnabu’r pwynt hwn gan y Cynghorydd Roberts a siaradodd am yr angen i gadw themâu sy’n trawstorri, megis Tlodi a Lles, yn ogystal â blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn megis y ‘Cyngor Gwyrdd’ a oedd angen golwg ar draws y Cyngor.

 

Cytunodd y Cynghorydd Thomas a rhoddodd enghreifftiau o gyd-weithio ar draws feysydd gwasanaeth.  Cyfeiriodd hefyd at gyfle’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ddylanwadu ar eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.

 

Wrth gydnabod nifer y materion sy’n trawstorri, pwysleisiodd y Cynghorydd Jones ei sylwadau am aliniad Cynllun y Cyngor gyda’r portffolios a bod y themâu yn haws i’w deall a’u dilyn pan yr oeddent wedi alinio â swyddog arweiniol a phwyllgor penodol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton y meysydd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi a oedd yn ymestyn ar draws gylch gwaith yr holl bwyllgorau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Heesom o blaid sylwadau’r Cynghorydd Jones a pha mor bwysig yr oedd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ganolbwyntio ar faterion allweddol.

 

Yn dilyn y drafodaeth, cefnogodd y Pwyllgor awgrym y Prif Weithredwr, sef y dylai’r thema Tlodi aros yn agored hyd nes ystyried yr eitem y tro nesaf er mwyn i Aelodau allu ystyried pa bwyllgor Trosolwg a Chraffu oedd fwyaf addas ar gyfer y thema hon.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Jones a Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r broses a’r amserlen ar gyfer adolygu Cynllun y Cyngor i’w ail-fabwysiadu ar gyfer 2021/22.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: