Manylion y penderfyniad
North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the key documents required for
approval to reach Final Deal Agreement for the North Wales Growth
Deal with the UK Government and Welsh Government.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddogfen yn nodi’r dogfennau allweddol y mae’n rhaid eu cymeradwyo er mwyn llunio Cytundeb Bargen Twf Terfynol ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod adroddiad a’r dogfennau perthnasol wedi’u hanfon at yr holl sefydliadau partner gyda’r bwriad y bydd y deng partner wedi mabwysiadu'r adroddiad erbyn canol mis Rhagfyr yn barod i lofnodi'r Fargen Twf gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Byddai adroddiad er gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd Craffu, Cabinet a Chyngor y chwe awdurdod lleol.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r Fargen Twf yw'r prosiect cydweithredol unigol mwyaf y mae Gogledd Cymru erioed wedi ymgymryd ag o, a chyfeiriodd at yr arwyddocâd gwleidyddol, economaidd ac ariannol. Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:
- partneriaeth - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
- Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
- Strwythur Llywodraethu
- Amserlen
- Cytundeb Terfynol
- gofynion y Cytundeb Bargen Twf Terfynol – Achosion Busnes
- cynllun busnes trosfwaol
- portffolio’r fargen twf
- rhaglenni
- incwm a gwariant
- goblygiadau Ariannol
- Cytundeb Llywodraethu 2
- Cytundeb Terfynol drafft
- dyddiadau allweddol
Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am y gwaith rhanbarthol llwyddiannus sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sydd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru. Anogodd yr Aelodau i gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad gan ddweud eto bod angen gwneud cynnydd er mwyn llofnodi'r Fargen Twf derfynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd Rhagfyr 2020 am y rhesymau a nodwyd eisoes.Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr am ei waith caled a’i ddylanwad ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a thalodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Aaron Shotton am ei waith fel cyn Arweinydd y Cyngor.
Cododd y Cynghorydd Paul Shotton gwestiwn am orwariant. Mewn ymateb eglurodd y Prif Weithredwr fod trefniadau llywodraethu llym cysylltiedig â rhaglenni sydd wedi'u datganoli i lefel prosiect a rhoddodd sicrwydd nad oes unrhyw bryderon cysylltiedig â gorwariant.Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r sylwadau a wnaed am BREXIT a dywedodd y byddai budd lleol i Sir y Fflint yn deillio o’r Fargen Twf drwy wasgariad cyllid Ewrop. Siaradodd hefyd am arwyddocâd Caergybi o ran masnach, buddsoddiad a thwristiaeth.
Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Owen Thomas yn ymwneud â chyflogaeth leol a buddsoddiad mewn diwydiant lleol, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai swyddi a buddion yn deillio o’r Fargen Twf wedi’u lledaenu ar draws y rhanbarth a bod arian i’w fuddsoddi mewn diwydiant lleol hefyd wedi'i ennill cyn, ac ar wahân i'r Fargen Twf. Mewn ymateb i'r pryderon ychwanegol a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) at Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r gwaith rhwng colegau a’r Bwrdd Uchelgais i sicrhau bod ysgolion, colegau a phrifysgolion yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy raglenni cyfalaf newydd.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Kevin Hughes ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.
Ymataliodd y Cynghorydd Patrick Heesom rhag pleidleisio ar yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cabinet a'r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n amlinellu’r trefniadau ar gyfer darparu Bargen Twf Gogledd Cymru fel y sail dros ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a'r DU;
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol; argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r darpariaethau perthnasol i swyddogaethau anweithredol, a bod y Cabinet y mabwysiadu'n benodol y dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn ‘Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1’, fel y sail dros gwblhau’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.
(c) Bod yn Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn awdurdodi'r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y partneriaid.
(d) Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cost y benthyca sydd ei angen yn ddamcaniaethol i hwyluso llif arian parod negyddol ar gyfer y Fargen Twf, a chynnwys darpariaeth yng nghyllideb y Cyngor i dalu'r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol penodedig.
(e) Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sy’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb.
Awdur yr adroddiad: Theresa Greenhough
Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 10/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol:
- North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 169 KB
- Enc. 1 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 2 MB
- Enc. 2 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 3 MB
- Enc. 3 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 580 KB
- Enc. 4 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 1 MB
- Enc. 5 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 239 KB
- Enc. 6 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 616 KB
- Enc. 7 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 669 KB
- Enc. 8 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal PDF 814 KB