Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s) and to rebuild the forward work programme for the remainder of the 2020/21 Council year with a specific focus on recovery planning.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddarparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

 

Arweiniodd y Prif Weithredwr gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol ar y Strategaeth Adferiad:

 

  • pwrpas
  • argymhellion
  • amcanion y strategaeth adferiad
  • cronoleg leol
  • amcanion yr ymateb
  • rhai cyflawniadau lleol wrth ymateb
  • amcanion adferiad - trefn
  • amcanion adferiad - gwasanaeth
  • gweithgareddau adferiad
  • Cynllun a pherfformiad y Cyngor
  • Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd
  • amcanion adferiad

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch Cynllun y Cyngor a chadw at y gyllideb, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd nad oedd unrhyw beth wedi'i adael yn y Cynllun oherwydd y Strategaeth Adferiad, a gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried meysydd a oedd fwyaf perthnasol yn y 6 i 12 mis nesaf.  

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir gan wneud cyflwyniad ar Ddadansoddiad y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • tueddiad risg agored a chaeedig
  • dadansoddiad o statws y risg gyfredol
  • dadansoddiad o statws tueddiad y risg

 

 

Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad, a'r Prif Swyddog (Llywodraethu) i gyflwyno'r gofrestr risg a chamau lliniaru risg ar gyfer eu portffolios gwasanaeth (Cyllid, y Gweithlu a Llywodraethu).

 

Yn ystod ei gyflwyniad, ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom.Roedd hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd gorfod benthyca yn gynharach i ariannu'r rhaglen gyfalaf oherwydd bod y lefel o gronfeydd wrth gefn yn is.Teimlai fod hyn yn risg. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cronfeydd wrth gefn yn gadarnhaol a bod y rhaglen gyfalaf yn gwario llai na'r swm a gyllidebwyd.Mewn ymateb i'r cwestiwn pellach a godwyd gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw ofyniad benthyca ychwanegol ar gyfer y flwyddyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r Gofrestr, gyda dadansoddiad cyd-destunol, yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor bob mis i'w hadolygu.

 

Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ymateb manwl i'r sylwadau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch y risgiau i gronfeydd wrth gefn (CF06, CF07) a'r cynnydd mewn costau gan gyflenwyr am nwyddau a gwasanaethau oherwydd cyflenwad a galw, a strategaethau adfer busnes (CF10). 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiadau penodol ar rai o'r risgiau cyllid yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn y dyfodol agos i'w hystyried yn fanwl. 

 

Gan gyfeirio at y risgiau a nodwyd o dan y pennawd Gweithlu, gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd y cynnig i staff addysgu ym mhob ysgol gael brechiadau ffliw wedi’i ariannu gan y Cyngor yn cael ei ddatblygu.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad fod y Cyngor wedi archebu 4,500 o frechiadau a chynghorodd fod athrawon ysgol a gweithwyr allweddol wedi'u cynnwys yn y rhaglen a bod y Tîm Iechyd Galwedigaethol yn paratoi i ddarparu'r cynllun. Aeth yn ei blaen i ddweud bod nifer o ddulliau cyfathrebu wedi'u darparu i annog y gweithlu i dderbyn y cynnig.

 

Roedd y set lawn o flaenoriaethau strategol ar gyfer adferiad a argymhellir i'w tynnu o Gynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 a'u cynnwys yn y Strategaeth Adferiad hefyd ynghlwm, ynghyd â'r set lawn o dargedau dangosyddion perfformiad diwygiedig ar gyfer 2020/21.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y cyflwyniad, gan ddiolch i’r swyddogion; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn rhoi tasg i’r Swyddogion ail-lunio’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: