Manylion y penderfyniad
Treasury Management Strategy 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve the Treasury Management Strategy 2020/21
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Pwyllgor Archwilio wedi adolygu’r Strategaeth mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020 a rhoddwyd adborth i’r Cabinet mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn y Cyngor Sir.Roedd cwestiynau’r Pwyllgor Archwilio ac ymatebion y Swyddogion wedi’u manylu ym mharagraff 1.15 adroddiad y Cabinet, dyddiedig 18 Chwefror 2020. Ar ôl ystyriaeth, roedd y Cabinet wedi argymell y Strategaeth i’r Cyngor ei gymeradwyo.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y cyfan nad oedd y Strategaeth wedi newid ers y llynedd. Fe eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau am fuddsoddiadau Awdurdod Lleol ym mis Tachwedd 2019 a fyddai’n dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Roedd mwyafrif y newidiadau wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth a byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn.
Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Prif Weithredwr, a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith. Cyfeiriodd at gwestiynau’r Pwyllgor Archwilio am y Strategaeth ddrafft yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, a dywedodd fod y Pwyllgor yn fodlon ag ymateb y Swyddogion. Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: