Manylion y penderfyniad
Risk Management Framework
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To report progress on the implementation of the updated risk management framework.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar gynnydd o ran gweithredu’r fframwaith rheoli risg wedi’i ddiweddaru, a rannwyd gyda’r Pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn, a oedd wedi’i effeithio gan y sefyllfa argyfwng.
Roedd y fframwaith wedi’i ddiweddaru am gyflwyno dull mwy systematig o ran nodi a dilyn trywydd risgiau, a gwelwyd hyn fel arfer gorau. Roedd Aelodau a rheoleiddwyr wedi cefnogi’r dull cadarn o ran adrodd am risgiau yn ystod y sefyllfa argyfwng. Fel rhan o adolygiadau rheolaidd, byddai trefniadau llywodraethu corfforaethol yn y ddogfen yn cael eu cryfhau i adlewyrchu dilyn trywydd risgiau lefel uchel yn fwy clir i Aelodau.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod yr amrywiaeth o ymgynghori ar y fframwaith wedi helpu i sicrhau dealltwriaeth well o’r system ar gyfer dilyn trywydd risgiau. Roedd y cofrestrau risg newydd a oedd wedi’u cyflymu yn ystod y sefyllfa argyfwng, yn destun craffu rheolaidd.
Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol drosolwg o waith cynghorol a wnaed gan ei thîm a oedd yn helpu i roi sicrwydd o ran cadernid trefniadau rheoli risg.
Siaradodd Sally Ellis am bwysigrwydd sicrhau bod prosesau risg a dilyn trywydd yn ffurfio rhan o adroddiadau Trosolwg a Chraffu. Fel a soniwyd, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r meysydd hyn yn cael eu hamlygu yn y ddogfen. Soniodd am falensau cronfeydd wrth gefn ysgolion fel enghraifft lle dylai Aelodau a swyddogion fod yn rhagweithiol am y risgiau a bod cynllunio gwaith i’r dyfodol yn effeithiol yn allweddol o ran rheoli risg.
Gan ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, eglurodd swyddogion y broses i gofnodi a monitro risgiau er mwyn sicrhau bod prosesau lliniaru a rheolyddion wedi’u diweddaru. Wrth i’r Prif Swyddog egluro’r broses ar gyfer adolygu, herio a chyhoeddi cofrestrau risg, siaradodd y Prif Weithredwr am bwysigrwydd dilyn trywydd risgiau’n brydlon, o weithredol i gorfforaethol.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Johnson am weithredu’r fframwaith yn ystod y sefyllfa argyfwng, canmolodd y Prif Weithredwr lefel y berchnogaeth ar risgiau a chydweithio ar gamau gweithredu lliniaru.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd gan y fframwaith rheoli risg wedi’i adnewyddu a chynnydd ei weithredu.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: