Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn o’r gorffennol.  Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) gan yr ymgeisydd, dangoswyd tair euogfarn o 1999 a 2004, gydag wyth o droseddau ar wahân. Dangoswyd manylion llawn o droseddau’r ymgeisydd yn Atodiad B o’r adroddiad.   

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi cael cais i roi eglurhad ysgrifenedig iddynt o’i heuogfarnau, a’i methiant i ddatgelu bob un ohonynt pan ofynnwyd iddi wneud hynny ar y ffurflen. Roedd yr esboniad wedi’i atodi i’r adroddiad.   Oherwydd natur yr euogfarnau, yn enwedig mewn perthynas â'r achosion o ymosod cyffredin ac achosion o ymosod ar Swyddog Heddlu, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i heuogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Gofynnodd iddi roi manylion o’i hamgylchiadau personol, a'i hanes teuluol a chyflogaeth.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr honiad a wnaeth yr ymgeisydd yn erbyn unigolion eraill yn 2004, a gofynnodd iddi roi disgrifiad llawn o’i gweithredoedd ar y pryd, a'r rhesymau pam ei bod wedi gwneud yr honiad. Gofynnodd iddi hefyd egluro pam nad oedd wedi rhoi gwybod am bryder mor ddifrifol i’r Heddlu neu awdurdod arall er mwyn ei ymchwilio.  Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn difaru ei hymddygiad yn fawr a chyfeiriodd at ei hesboniad ysgrifenedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn difaru peidio â rhoi gwybod am yr honiad ar y pryd ac wedi gweithredu ar wybodaeth a roddwyd iddi gan drydydd parti yr oedd yn ymddiried ynddynt, ac wedi penderfynu "cymryd y mater i'w dwylo ei hun" yn lle.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro ei sefyllfa gyfredol o ran ei theulu, trefniadau domestig a dyheadau cyflogaeth.  Dywedodd yr ymgeisydd fod ganddi fywyd teuluol sefydlog a gyda chyfrifoldebau fel prif ofalwr. Roedd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn cynllun chwarae a gwaith elusennol yn ei hamser rhydd. Roedd yn dymuno ceisio cyflogaeth fel gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat i ategu at incwm yr aelwyd a’i galluogi i weithio oriau hyblyg o amgylch anghenion ei theulu. Ailadrodd ei bod yn difaru ei gweithredoedd pan oedd yn ifanc yn fawr, ac eglurodd fod hyn o ganlyniad i'w “magwraeth gythryblus”.  

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau. Ceisiodd y Panel fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n ag amgylchiadau a oedd wedi achosi ei heuogfarnau a’r ddwy drosedd o ymosod ar Swyddog Heddlu. Holodd y Panel yr ymgeisydd hefyd am ei chefndir a’i methiant i roi gwybodaeth am yr honiad yn erbyn unigolion eraill i’r awdurdodau addas.

 

Cwestiynwyd yr ymgeisydd yn fanwl gan y Cyfreithiwr am ei chais a gofynnodd iddi egluro pam nad oedd wedi rhoi manylion o’i heuogfarnau a throseddau ar y ffurflen. Dywedodd yr ymgeisydd nad oedd wedi bwriadu twyllo ond nad oedd wedi sylweddoli bod angen cofnodi’r troseddau blaenorol ar y cais, gan eu bod wedi'u cyflawni flynyddoedd ynghynt ac nad oedd yn gallu cofio'r manylion.  

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at ei heuogfarn yn 2004, a holodd yr ymgeisydd a oedd yn deall natur ddifrifol yr honiad a wnaeth yn erbyn unigolion eraill yn llawn, ac i egluro pam nad oedd wedi rhoi gwybod am hyn i’r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ymchwilio iddo. Gofynnodd i’r ymgeisydd ddisgrifio’r amgylchiadau a achosodd ei heuogfarn o ymosod ar Swyddog Heddlu yn fanwl. Cwestiynodd yr ymgeisydd a holodd a oedd ei gweithredoedd wedi digwydd o ganlyniad i yfed alcohol ac a oedd â phroblemau’n ymwneud ag alcohol. Fe wnaeth yr ymgeisydd gydnabod ei bod wedi gweithredu o dan ddylanwad alcohol ar ddyddiad yr euogfarn yn 2004, ac ailadroddodd ei bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir i “gymryd materion i’w dwylo ei hun”.  Dywedodd nad oedd â chyflwr o ddibyniaeth ar alcohol ac nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ers hynny.  Pwysleisiodd ei bod â bywyd teuluol sefydlog a'i bod â chyfrifoldebau fel prif ofalwr ar gyfer aelod teuluol. 

 

Pan holwyd yr ymgeisydd sut y byddai’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol pe bai ei chais am Drwydded Yrru ar y Cyd yn cael ei rhoi, dywedodd y byddai’n gwneud ei gorau i gefnogi a thawelu’r unigolyn, ac atal y broblem rhag gwaethygu.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth. Rhoddodd yr ymgeisydd fanylion o’i chyflogwyr blaenorol a dywedodd ei bod hi hefyd wedi gweithio dramor am gyfnod byr o amser. Eglurodd, er ei bod yn parhau i fod yn ofalwr i aelod agos o’r teulu, roedd hi nawr hefyd yn gallu ystyried rhywfaint o gyflogaeth ychwanegol.  Pan ofynnwyd iddi a oedd yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded Yrru, dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn addas, ac roedd yn difaru ei gweithredoedd yn y gorffennol ac eisiau darparu gwell bywyd iddi hi a’i theulu. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, y parti cysylltiedig ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod wrth i’r panel benderfynu’r cais.

 

3.1       Penderfynu ar y Cais  

 

Wrth benderfynu’r cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth ag euogfarnau, rhybuddion, cyhuddiadau troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Roedd yr Is-Bwyllgor yn credu bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas yn unol ag ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd). Fodd bynnag, oherwydd pryderon y Panel ynghylch natur y troseddau, cytunwyd y dylid rhoi Trwydded Tacsi / Cerbyd Hurio Preifat o 12 mis, am gyfnod prawf o 6 mis, yn hytrach na Thrwydded 3 blynedd. Wrth i’r Drwydded 12 mis ddod i ben, pe bai’r ymgeisydd yn dymuno ymgeisio am Drwydded arall, byddai’n gorfod gwneud cais adnewyddu am Drwydded ar ei thraul ei hun, yn cynnwys costau a ffioedd sy’n codi o wiriadau fel gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

            Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd â’r parti cysylltiedig yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

3.2       Penderfyniad

           

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried pob sylw a wnaed ac wedi penderfynu ei bod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd) ac wedi cael trwydded 12 mis, gyda chyfnod prawf o 6 mis.  Wrth i’r Drwydded 12 mis ddod i ben, pe bai’r ymgeisydd yn dymuno ymgeisio am Drwydded arall, byddai’n gorfod gwneud cais adnewyddu am Drwydded ar ei thraul ei hun, yn cynnwys costau a ffioedd sy’n codi o wiriadau fel gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded           Yrru  Cerbyd Hurio Preifat / Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu trwydded 12 mis  am gyfnod prawf o 6 mis; ac

 

 (b)     Ar ddiwedd y Drwydded 12 mis, os bydd yr ymgeisydd wedi gwneud           cais am drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni (Ar y Cyd)       newydd, byddai’r costau sy'n gysylltiedig â'r cais, yn cynnwys unrhyw gofnodiontroseddol a gwiriadau fetio eraill, ar ei thraul ei hun.

 

 

 (Dechreuodd y gwrandawiad am 2.00pm a daeth i ben am 15.45pm)

 

 

 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •