Manylion y penderfyniad
Contaminated Land Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Member on the Assessment of
contaminated land sites and following remediation works.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar asesiad o safleoedd tir halogedig ac yn dilyn gwaith adferiad Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yr Awdurdod wedi’i ddiweddaru yn 2019 i adlewyrchu cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd sy’n effeithio ar bolisïau corfforaethol ehangach a sut y dylid ystyried halogiad tir. Mae’r adroddiad yn cynnwys y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19 ac mae’n crynhoi’r nifer a math sylweddol o safleoedd a aseswyd o ganlyniad i Ran 2A.
Dywedodd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnes fod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i nodi ac asesu unrhyw dir o fewn Sir y Fflint y gall halogiad effeithio arno a sicrhau adferiad tir halogedig yn unol â Rhan 2A o’r Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Eglurodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn perthynas â’r Strategaeth Archwilio Tir halogedig ac roedd crynodeb o gamau Rhan 2A yn yr atodiad gyda’r adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton yngl?n â goblygiadau adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) fod gan yr Awdurdod gyllideb refeniw blynyddol i gyllido’r asesiadau a gynhelir o fewn y Gyllideb Rheoli Llygredd. Roedd cyllid cyfalaf hefyd wedi’i osod ar wahân i’r rhaglen gyfalaf i ariannu costau unrhyw waith adferiad angenrheidiol ar unrhyw safle ble roedd angen gwneud gwaith o’r fath. Roedd arian cyfalaf £1miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 a gwahoddwyd ceisiadau cystadleuol am arian gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd yr Awdurdod wedi cyflwyno pedwar cais a dyfarnwyd £221,268.00. Byddai ceisiadau am arian yn parhau wrth i fwy o arian ddod ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau roi’r pryderon penodol a godwyd yngl?n â materion tir halogedig yn eu Ward yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar gyfer ymateb manwl a chopi i’r Cadeirydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd a wnaed yn mynd i’r afael â thir halogedig hanesyddol yn cael ei nodi; a
(b) Bod cynnydd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gefnogi.
Awdur yr adroddiad: Jenny Prendergast
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: