Manylion y penderfyniad
Sub-committee of the Standards Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried rhinweddau sefydlu is-bwyllgor i benderfynu ar geisiadau am oddefebau pan nad oes cyfarfod cyfleus arall o’r Pwyllgor llawn wedi’i drefnu. Roedd hyn yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr a aildrefnwyd gyda’r cworwm lleiaf posib ar ôl ei ganslo i gychwyn, er mwyn ystyried un cais am oddefeb.
Wrth egluro’r darpariaethau angenrheidiol i sefydlu is-bwyllgor, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r opsiwn hwn yn cynnig llai o hyblygrwydd o ran aelodaeth. Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Pwyllgor yn cyfarfod bob mis a bod y trefniant ym mis Ionawr wedi gweithio’n dda.
Siaradodd yr Aelodau o blaid yr awgrym hwn, gan nodi eu bod yn dymuno parhau gyda’r trefniadau presennol heb fod angen is-bwyllgor. Cynigiwyd ac eiliwyd hyn gan Julia Hughes a’r Cynghorydd Woolley.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, sicrhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r Aelodau yn cael eu hatgoffa o’r angen i gyflwyno ceisiadau am oddefebau cyn gynted ag y bo modd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cytuno nad oes angen is-bwyllgor.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: