Manylion y penderfyniad
Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2019/20
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i gyflwyno crynodeb o'r gwaith monitro a wnaed o gynnydd o ran sefyllfa chwarter tri 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 'Cyngor sy’n Gofalu', 'Cyngor Uchelgeisiol' a 'Chyngor sy’n Gwasanaethu' sy'n berthnasol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) er bod nifer yr unigolion a gefnogwyd trwy'r gwasanaeth mentora sy'n mynd i gyflogaeth, dysgu a gwirfoddoli yn is na'r targed, roedd ef a'r tîm yn hyderus bod y targed blwyddyn lawn yn gyraeddadwy.
Gwnaeth y Cynghorydd Rosetta Dolphin sylwadau ar berfformiad y Tîm Digartrefedd a'r Tîm sy'n cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer tenantiaid y Cyngor a gofynnodd am anfon llythyr at Jenni Griffiths, Rheolwr Digartrefedd a Chyngor a Sean O'Donnell, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf yn diolch iddyn nhw a'u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin hefyd at fesur perfformiad 1.4.5.1 a gofynnodd pam y dangoswyd bod y cynnydd yn wyrdd os oedd nifer yr unedau llety cymdeithasol a ddarparwyd wedi gostwng ar ôl i'r gymdeithas dai fethu â chyrraedd ei tharged. Cytunodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu ymateb yn dilyn y cyfarfod.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin ynghylch gosod pympiau gwres yr awyr, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu manylion y swyddogion i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod fel y gallai'r Aelodau ddarparu gwybodaeth i breswylwyr trwy eu cylchlythyrau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 11/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol:
- Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report PDF 136 KB
- Appendix 1 – Quarter 3 Council Plan Monitoring Report – Caring Council PDF 579 KB
- Appendix 2 – Quarter 3 Council Plan Monitoring Report – Ambitious Council PDF 275 KB
- Appendix 3 – Quarter 3 Council Plan Monitoring Report – Serving Council PDF 288 KB