Manylion y penderfyniad

21st Century Schools - Mutual Investment Model Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the Mutual Investment Model (MIM) process,. and to seek approval to execute the Strategic Partnership Agreement (SPA) with the Welsh Education Partnership co (WEPco). 

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Raglen Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) Ysgolion yr 21ain Ganrif LlC.

 

                        Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion ar gynnydd hyd yma a chamau nesaf y broses MBC. Roedd yn gofyn am sêl bendith i weithredu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda chwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPco) pan fyddai’n cael ei benodi gan LlC yn hydref 2020.

 

                        Eglurodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgol, mai ffurf newydd o Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat oedd y Model a oedd yn galluogi LlC i gyflawni prosiectau seilwaith y tu hwnt i’r hyn a osodwyd gan derfynau benthyca presennol Llywodraeth y DU. Pe na bai LlC yn defnyddio MBC, ni fyddai £500M yn yr ystâd addysg ar gael i gynghorau yng Nghymru a byddai gan hynny oblygiadau i raglen arfaethedig y Cyngor yn lleol.

 

                        Byddai contractwr o’r sector preifat yn cael ei benodi drwy fframwaith LlC newydd ac roedd y contract yn ariannu, adeiladu a darparu adeilad ‘cylch bywyd’ 25 mlynedd. Golygai hyn fod y cyfrifoldeb am ariannu a chodi’r adeilad, ac yna atgyweirio a chynnal a chadw’r adeilad am 25 myned wedi’i adeiladu, yn aros gyda’r contractwr. Golygai hyn y byddai adeiladau a ariannwyd gan MBC yn cael eu cadw ar lefel gyson uchel am 25 mlynedd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgol, y gwahaniaeth rhwng Menter Cyllid Preifat (PFI) a’r Model newydd a dywedodd fod y PFI wedi cael ei ddiddymu yn 2018.

 

Er mwyn mynd ymlaen â’r broses MBC, roedd gofyn i’r Cyngor lofnodi Cytundeb Partneru Strategol gyda WEPco.

 

Byddai Bwrdd Partneru Strategol yn cael ei sefydlu a hwn fyddai’r prif fecanwaith ar gyfer rheoli perfformiad WEPco. Y Bwrdd hwn fyddai’r fforwm canolog lle gallai’r cyfranogwyr weithio gyda’i gilydd gyda WEPco, LlC a chynrychiolwyr rhanddeiliaid eraill i sicrhau fod prif egwyddorion y Cytundeb Partneru Strategol yn cael eu dilyn. Roedd Neal Cockerton yn cael ei argymell fel Cynrychiolydd Cyfranogiad y Cyngor i eistedd ar y Bwrdd Partneru Strategol.

 

Byddai taliadau cytundebol blynyddol dros fywyd y MBC yn seiliedig ar gyfradd ymyrraeth y Cyngor (19% Cyngor, 81% LlC), yn dechrau wedi adeiladu/trosglwyddo’r ysgol.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, gwnaeth y Cynghorydd Healey’r sylwadau canlynol ar ran y Cynghorydd Mackie, a oedd wedi derbyn atebion i’w gwestiynau:

 

Mae’r cwestiynau a’r sylwadau fel a ganlyn:-

 

  • Mae’r adroddiad hwn yn cynnig bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Math o PFI yw hwn y mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y DU eisoes wedi mynegi pryder amdano. I ddyfynnu o adroddiad 46, “Fodd bynnag mae’r costau i’r sefydliadau ar y rheng flaen wedi bod yn uchel a’r contractau yn anhyblyg”.

 

  • Credaf y dylai’r adroddiad gynnwys cymhariaeth lawn o gost y MBC yn erbyn y ffordd arferol o gyllido prosiectau o’r fath a manylion llawn cyllid cyfradd ymyrraeth LlC.

 

  • Byddai diddordeb gen i wybod sut bydd rhaniad o 81% 19% yn cyflawni’r un gwerth am arian drwy’r model hwn â’r gyfradd ymyrraeth cyfalaf draddodiadol, gweler paragraff 1.02 o adroddiad y Cabinet.

 

  • Hoffwn wybod hefyd pam fod y Cytundeb Partneru Strategol yn para am uchafswm o 15 mlynedd tra bod y cytundeb adeiladu a chynnal a chadw yn para am 25 mlynedd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Cabinet yn ategu ei ymrwymiad blaenorol i brosiect 3-16 Ysgol Mynydd Isa fel Ysgol Fraenaru MBC Llywodraeth Cymru;

 

(b)       Cymeradwyo gweithredu, cyflawni a pherfformiad y Cytundeb Partneru Strategol gyda WEPco yn hydref 2020 i hwyluso cyflawni ystod o wasanaethau seilwaith a sefydlu’r campws 3-16 arfaethedig ym Mynydd Isa; a

 

(c)        Chymeradwyo penodi Neal Cockerton, Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fel ‘Cynrychiolydd Cyfranogwyr’ i eistedd ar y Bwrdd Partneru Strategol cenedlaethol.

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 10/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet

Accompanying Documents: