Manylion y penderfyniad
Interim Revenue Budget Monitoring Report 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide details of the known risks and issues for 2020/21 for the Council Fund and Housing Revenue Account.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro’r gyllideb am flwyddyn ariannol 2020/21.
Roedd yr adroddiad yn egluro effeithiau’r sefyllfa argyfwng a’r costau ychwanegol sylweddol a’r colledion incwm ar draws pob portffolio.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y bu, hyd yma, tri chyhoeddiad arwyddocaol i gwrdd ag effeithiau ariannol y sefyllfa argyfwng yng Nghymru, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Ystod y risg ariannol i 2020/21 oedd £2.8M i £5.4M (gan eithrio canlyniad y trafodaethau cenedlaethol dros y dyfarniad cyflog blynyddol). Dim ond at Gronfa’r Cyngor yr oedd y ffigyrau yn yr adroddiad yn berthnasol ac nid oeddent yn cynnig y risgiau yn y dyfodol i Aura, NEWydd, Theatr Clwyd a’r prif Drosglwyddiadau Asedau.
Rhoddodd yr adroddiad enghreifftiau o’r camau brys a oedd wedi golygu costau ychwanegol, a chyllid grant argyfwng. Roedd yn rhaid i hawliadau i’r cyllid grant argyfwng gael eu cyflwyno’n ôl-weithredol, am yr union gostau a wynebwyd, a hynny yn fisol.
Roedd y tabl yn yr adroddiad yn dangos manylion cyfanswm gwerth yr hawliadau a gyflwynwyd ynghyd â’r cyllid a dderbyniwyd a’r elfennau hynny oedd ‘yn aros’ neu’n cael eu ‘gwrthod’. Byddai gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi i Lywodraeth Cymru (LlC) i herio’r penderfyniadau i drin rhai rhannau o’r hawliadau fel ‘yn aros’ neu ‘gwrthod’. Roedd yr hawliad am gostau ychwanegol a wynebwyd ym Mehefin i’w anfon erbyn 15 Gorffennaf a’r amcan oedd y byddai oddeutu £1.750M.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiadau sylweddol a’r risgiau yn ôl portffolio a’r risgiau agored.
Dywedodd y Cynghorydd Banks ei bod yn bwysig fod LlC yn rhoi eglurder am sut byddai’r diffyg yn cael ei gwrdd, ac eglurder am y goblygiadau yn sgil cyhoeddiadau’r DU.
Holodd y Cynghorydd Roberts pa fesurau a roddwyd yn eu lle yn fewnol i leihau pwysau cost. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y diffyg yn rhywbeth na allai’r awdurdod ei lyncu ei hun a bod angen cymorth gan lywodraethau’r DU a Chymru gan mai cyfrifoldeb y Llywodraeth oedd ariannu’r sector cyhoeddus drwy argyfwng o’r fath. Roedd y Cyngor wedi talu £45M o grantiau cymorth y llywodraeth a rhyddhad ardrethi i fusnesau ac roedd pethau nodedig yn cael eu gwneud i warchod pobl.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Dreth Gyngor am y flwyddyn ganlynol wedi’i hystyried.
Nododd y Cynghorydd Thomas sut roedd gwasanaethau’n dal i gael eu cyflawni, er bod rhai mewn ffordd wahanol a bod yn rhaid canmol hyn.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:
“Mae sefyllfa’r coronafeirws sy’n dal yn bodoli yn atal “busnes fel arfer” yr adeg yma a dyma yw achos uniongyrchol y costau ychwanegol a’r colledion incwm. Felly, fy marn i fel Cadeirydd y Pwyllgor TaChAC, yw fy mod yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion”.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r amcangyfrif o’r effaith ariannol ar gyllideb 2020/21 yn sgil y sefyllfa argyfwng;
(b) Gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i neilltuo digon o gyllid i ddigolledi llywodraeth leol yn llawn am y costau ychwanegol sylweddol a pharhaus a’r colledion incwm y maent wedi’u hwynebu; a
(c) Mynnu bod Llywodraeth y DU yn datganoli digon o gyllid i Lywodraeth Cymru, i’w galluogi yn ei thro i ariannu gofynion llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn llawn, fel yr amlinellwyd yn argymhelliad (b).
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 10/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet
Accompanying Documents: