Manylion y penderfyniad
Sale of Hope Hall Farm, Hope
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To support the sale of Hope Hall Farm, Hope
comprising 101 acres of agricultural land, house and associated out
buildings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor yn berchen ar y rhydd-ddaliad i Hope Hall Farm, Yr Hôb.
Roedd y fferm wedi’i rhannu i dair llain:
· Y fferm a 101 erw o dir;
· Llain 7 erw sy’n cael ei gwaredu ar wahân; a
· Thir a gedwir sy’n wynebu’r briffordd pe bai modd ei ddatblygu yn y dyfodol.
Byddai gwerthu yn amodol ar gymal adfachu a fyddai’n aros mewn grym am y 25 mlynedd nesaf.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:
‘Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, rwy’n ei gweld hi’n od bod y mater o werthu Hope Hall Farm yn cael ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet, rai misoedd ar ôl gwerthu. Yn ôl yr adroddiad, yn dilyn cefnogaeth Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf i gael gwared ar y fferm ym mis Chwefror 2018, cafodd ei gwerthu drwy dendr anffurfiol ym mis Tachwedd 2019.
Rwy’n derbyn er y byddai wedi bod yn well petai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet wedi cael eu cynnwys yn gynt, yn sicr yn y sefyllfa bresennol mae’n bosib y buasai cyflwr y farchnad wedi gwaethygu a’r prynwr wedi ailfeddwl y swm a gynigiwyd. Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r argymhelliad bod y Cabinet yn cefnogi gwerthu Hope Hall Farm, Yr Hôb, sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.’
Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi gwerthiant Hope Hall Farm, Yr Hôb sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/05/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/05/2020 - Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol