Manylion y penderfyniad

Alltami Depot Stores

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To inform Scrutiny of the controls in place to manage depot store at Alltami.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth adroddiad i roi sicrwydd ynghylch rheolaeth ar gyfer storfeydd yn nepo Alltami.  Mae storfeydd depo Alltami yn gyfrifol am storio holl eitemau stoc a deunyddiau a ddefnyddir yn y depo yn ddiogel a saff, yn ogystal â sicrhau fod yr holl beiriannau ac offer y mae’r gwasanaeth yn ei defnyddio yn cael ei gweithredu, archwilio a’i gwasanaethu yn unol ag amserlenni wedi’u cynllunio a gofynion cyfreithiol.

 

Cyflawnwyd archwiliadau mewnol o’r storfeydd depo yng Ngorffennaf 2016 gydag archwiliad dilynol ym Mai 2019.  Y darganfyddiadau cyffredinol o’r archwiliadau oedd bod y rheolaeth a weithredwyd ar yr amser hynny yn rhoi rhyw sicrwydd bod y risgiau allweddol yn cael eu rheoli yn effeithiol ond bod mwy y gellir ei wneud.  Adroddodd y rheolwr Darparu Gwasanaeth ar y system storfeydd newydd yn ei le, fel y manylir yn yr adroddiad yn egluro bod tîm prosiect darparu yn cael ei sefydlu i fonitro’r gwaith o ddarparu’r system, a byddai’n cael ei adrodd arno yn fisol yng nghyfarfodydd yr Uwch Dîm Rheoli.     

 

Wrth ymateb i gais gan y Cadeirydd, fe ddywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod copi o’r adroddiad archwiliad ar gael i Aelodau o’r Pwyllgor.  Fe gynghorodd hefyd bod canmoliaeth wedi bod i’r gwasanaeth ar y lefel o wybodaeth a ddarparwyd yn ystod archwiliad iechyd a diogelwch yn ddiweddar.

 

Dyma’r Cynghorydd Mike Peers yn diolch i’r swyddogion am yr adroddiad.  Tynnodd sylw at yr eitemau stoc a’r deunyddiau darfodedig wedi’u storio yn y depo a gofynnodd p’un ai fyddai’r gwasanaeth yn adennill y costau’n llawn ar unrhyw eitemau a fyddai’n cael eu hanfon i’r arwerthwr  a p’un ai fyddai’r arian a wneir yn cael ei roi yn ôl i’r gwasanaeth.  Mynegodd ei bryderon am y diffyg systemau yn eu lle er mwyn dychwelyd eitemau stoc heb eu defnyddio ac fe ofynnodd pam ei bod wedi cymryd 3 mlynedd i gael archwiliad dilynol.  Gofynnodd beth oedd y gost i’r gwasanaeth o ran staff asiantaeth ddim yn dychwelyd dillad priodol ar ddiwedd eu cyflogaeth ac fe fynegodd ei bryder ar yr ysgolion faniau oedd wedi eu prynu yn y gorffennol gan yr Adran Dai a’i storio yn y depo gan ofyn a oedd yn dyblygu mewn costau os nad oedden wedi cael eu symud am nifer o flynyddoedd.

 

Ymatebodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth drwy ddweud bod stoc ddarfodedig fel hen lusernau a rhwystrau diogelwch ddim yn gallu cael eu defnyddio yn rhywle arall, roedden nhw wedi mynd i’r arwerthiant a byddai costau llawn ar yr eitemau yn cael eu hadennill.  Roedd yr arian yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth strydwedd.  Nid oedd yn ymwybodol o’r rheswm pam fod yr archwiliad dilynol wedi cymryd 3 blynedd i’w wneud ond byddai’n gallu tynnu eu sylw nhw at hynny ar ôl y cyfarfod.  Mewn perthynas â’r gost o ddillad heb eu dychwelyd fe eglurodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth fod y gost heb gael ei ystyried fel rhan o’r archwiliad.    

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Peers, fe gytunodd y Prif Swyddog i ddarparu adroddiad yn diweddaru i’r Pwyllgor mewn chwe mis er mwyn rhoi sicrwydd fod y trefniadau gwaith a’r prosesau newydd yn cael eu dilyn yn gywir.         

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Chris Dolphin, fe gynghorodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth ei fod yn rhwymedigaeth statudol i ddarparu cyfarpar diogelu personol a dillad priodol i’r holl weithwyr cyflogedig. 

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Owen Thomas ei safbwyntiau ar y lefel o stoc a nwyddau ar gerbydau’r Cyngor a ellir eu targedu.  Eglurodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth bod cerbydau’r Cyngor yn aros yn y depo dros nos a bod yna ddim stoc na nwyddau yn cael eu gadael yn y cerbydau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhelliad wedi’i amlinellu yn yr adroddiad gyda’r Cynghorydd David Evans yn eilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y trefniadau gwaith o fewn storfeydd depo Strydwedd a Chludiant, a chamau gweithredu i reoli deunyddiau ac offer sy’n cael eu cadw yn y storfeydd yn cael eu cefnogi.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: