Manylion y penderfyniad

Rough Sleepers Briefing Paper

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To outline priority actions being taken to tackle and prevent homelessness in the County

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y camau blaenoriaeth sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â digartrefedd a’i atal ledled Sir y Fflint, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol y Cyngor, oedd wedi’i seilio ar dair prif thema’r Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y thema ‘Pobl’ a’i flaenoriaeth, sef pobl sy’n cysgu allan.

 

Cydnabuwyd nad oedd cysgu allan yn rhywbeth oedd wedi’i gyfyngu i drefi a dinasoedd mawr mwyach, gan ei fod yn ymestyn i ardaloedd eraill fel cymunedau yn Sir y Fflint. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at hyn, yn aml yn ymwneud â phroblemau cymhleth hirdymor, oedd yn gofyn am ymateb amlasiantaeth, gan gynnwys y tîm Cyffuriau ac Alcohol, a’r timau Tai a Lles. Ar ôl i’r darparwr gwasanaeth ddod â’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng i ben yn Sir y Fflint, canfuwyd cyfleuster arall dros dro yn Shotton ar gyfer y gwasanaeth lloches nos. Gyda’r broses recriwtio’n mynd rhagddi, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth newydd ar gael o fis Ionawr am gyfnod o 18 mis i ddwy flynedd, nes y gellir canfod llety parhaol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am yr ystod o fentrau cadarnhaol a ddarparwyd drwy’r Cynllun Gweithredu Lleol, megis hyrwyddo’r ap Streetlink. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr amrywiol resymau dros ddigartrefedd, gyda chanran fawr yn ganlyniad i rieni yn methu neu’n amharod rhoi llety i’r unigolyn. Roedd y tîm wedi ymgysylltu’n ddiweddar â phedwar unigolyn y canfuwyd eu bod yn cysgu allan, ond roedd yn sylweddoli bod mwy o bobl allan yno, gan gynnwys syrffwyr soffa. Roedd y broses recriwtio’n mynd rhagddi ar gyfer y gwasanaeth Tai yn Gyntaf, oedd yn fodel effeithiol ar gyfer ymgysylltu a darparu cymorth cofleidiol i bobl sy’n cysgu allan gyda nifer o anghenion cymhleth.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, croesawodd y Cadeirydd y peilot Tai yn Gyntaf gan ddweud y dylid canmol y Cyngor am ei ddull o fynd i'r afael â digartrefedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am yr adroddiad a’r camau gweithredu roedd y Cyngor yn eu cymryd. Dywedodd ei fod yn siomedig bod partner strategol y Cyngor wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng ar fyr rybudd, ac y gallai cymdeithasau tai wneud mwy i fynd i’r afael â digartrefedd yn Sir y Fflint.  Mewn ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am ddatblygu’r dull amlasiantaeth yn fodel effeithiol i helpu cael pobl oddi ar y strydoedd. Roedd darparwr gwasanaeth y lloches nos yn awyddus i ddatblygu a hyfforddi gwirfoddolwyr, a bydd yn cydweithio ag amrywiol sefydliadau megis Help the Homeless.  Dywedodd y Rheolwr Digartrefedd a Chyngor y byddai sefydlu cysylltiadau â gwirfoddolwyr, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, yn darparu rhwydwaith o gymorth i helpu pobl mewn angen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at drafodaethau am ddatblygu Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gan awgrymu cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder.

 

Cefnogodd y Pwyllgor awgrym yr Hwylusydd i gael adroddiad diweddaru ymhen chwe mis i adolygu effaith y camau gweithredu, gan wahodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Dywedodd y Prif Swyddog fod y gwasanaeth yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar y broses ddiogelu, ac y byddai adroddiad diweddaru yn archwilio cymhlethdodau sefydlu hunan-esgeulustod yn gyfreithiol.  Rhoddodd sicrwydd na fyddai’r Cyngor yn troi ei gefn ar bobl sy’n cysgu allan sy'n gwrthod ymgysylltu â hwy, ac y byddai’r tîm yn parhau â’i ymdrechion, fel y dangoswyd gydag achos hirdymor diweddar ym Mwcle.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am ymweld â Chyngor Tref Treffynnon, croesawodd y Cynghorydd Palmer y camau cadarnhaol, gan annog mwy fyth o ffocws ar yr unigolion hynny sy’n gwrthod ymgysylltu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Shotton bryderon am nifer y bobl rhwng 18 a 24 oed sy’n cysgu allan, nad oedd eu rhieni’n gallu cynnig llety iddynt.

 

Canmolodd y Cynghorydd Butler ymateb y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd, oedd yn broblem genedlaethol ddifrifol. Diolchodd i’r Prif Swyddog a’r Rheolwr, ynghyd â’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) am yr amser y maent wedi’i dreulio yn y lloches, y tu allan i oriau gwaith, yn helpu pobl mewn angen.

 

Wrth ganmol y tîm am eu gwaith, siaradodd y Cynghorydd Heesom am yr angen am fuddsoddiad ehangach a sefydlu cysylltiadau ag asiantaethau partner i weithio gydag unigolion ar weithgareddau allai wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau. Dywedodd y swyddogion fod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar wedi cael ei gydnabod, a bod codi ymwybyddiaeth o’r profiadau sy’n arwain at ddigartrefedd, yn enwedig mewn ysgolion, yn helpu pobl ifanc i ddeall yr heriau hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Attridge ar lefelau digartrefedd yn Sir y Fflint, dywedodd y Prif Swyddog, er bod y niferoedd wedi cynyddu, eu bod yn dal i fod yn gymharol isel o’u cymharu ag ardaloedd eraill fel Y Rhyl, Lerpwl a Manceinion.  Ategodd y Cynghorydd Hughes hyn, gan ddweud bod y niferoedd yn is na rhai Wrecsam a Chaer. Dywedodd fod hyd yn oed un person sy’n cysgu allan yn ormod, ac y byddai’r Cyngor yn parhau â’i ymdrechion i helpu pobl mewn angen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell, er bod digartrefedd heddiw yn dorcalonnus, ei fod wedi bod yn amlwg ers rhai blynyddoedd. Wrth groesawu amrywiol fentrau, dywedodd ei bod yn anochel y byddai rhai unigolion yn dewis peidio â derbyn cymorth.

 

Gadawodd y Cadeirydd i Mr John Ennis, oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus, gael siarad. Cyfeiriodd Mr Ennis at bwysigrwydd cyllid digonol i fynd i’r afael â digartrefedd a lleihau’r rhestr aros am dai. Mewn ymateb i sylwadau am ddatgarboneiddio, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn faes ffocws gan Lywodraeth Cymru i leihau biliau ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd, allai arwain at ddigartrefedd.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn croesawu’r adroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda nifer o asiantaethau i ateb yr heriau ar gyfer pobl sy’n cysgu allan; a

 

(b)       Cyfleu diolchiadau’r Pwyllgor i’r tîm Digartrefedd am y gwaith a wneir i ateb yr heriau ar gyfer pob unigolyn sy’n datgan eu bod yn ddigartref.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Dogfennau Atodol: