Manylion y penderfyniad

Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Three Post-Settlement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To update on the Council Fund Revenue Budget 2020/21 following receipt of the Welsh Local Government Provisional Settlement in December

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 Cam Tri Ôl-Setliad a oedd yn nodi sut allai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 ar gyfer cam tri y broses gosod cyllideb. Roedd y cyfrifon yn seiliedig ar uchafswm cynnydd blynyddol ar Dreth y Cyngor o 5%.

 

            Roedd y rhagolygon ar gyfer 2020/21 wedi cael eu hadolygu er mwyn ystyried y ‘risgiau agored’ lle roedd angen gwneud darpariaeth ariannol er mwyn i’r gyllideb fod yn ddarbodus. Roedd y gwaith oedd ar y gweill ar yr opsiynau ariannu corfforaethol gweddillol wedi eu cwblhau ac roedd y canlyniadau wedi’u nodi o fewn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn egluro’r ‘risgiau agored’ gweddillol ar gyfer 2020/21. Darparwyd copïau o’r sleidiau i’w cyflwyno i holl aelodau mewn cyfarfod Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyfarniad cyflog athrawon i’w talu o’r ymgodiad cyffredinol mewn cyllid a gyhoeddwyd yn y Setliad Dros Dro. Felly roedd darpariaeth ar gyfer ymgodiad o 2% wedi ei gynnwys yn y gyllideb am gost ychwanegol o £0.726 miliwn. Roedd pwysau ychwanegol ar gyfer Lleoliadau tu hwnt i’r Sir, y Gwasanaeth Crwner ac ar gyfer lleihad yng ngrant Gwastraff Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi cael eu cynnwys ynghyd ag addasiadau i’r pwysau ar gyfer Ardoll Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cafodd y pwysau o ran cost ar gyfer AAA o £0.400 miliwn ei dynnu o'r rhagolygon wrth ddisgwyl am mwy o wybodaeth ar Grant penodol Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei ystyried fel risg agored yn 2020/21. Roedd yr addasiadau i’r pwysau hynny wedi lleihau’r bwlch rhagolygon o £15.629 miliwn a adroddwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr i £16.315 miliwn a rhoddodd fanylion am ddatrysiadau cyllideb, fel y nodwyd yn yr adroddiad, i gau’r bwlch. Roedd 'rhain yn cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwr, comisiynu gofal cymdeithasol a disgownt person sengl – adolygiad o hawl. Ar ôl ystyried hyn oll, roedd bwlch o £0.246 miliwn yn parhau.

 

            Darllenodd y Cynghorydd Roberts ddatganiad ar ei ran ef, Aelod Cabinet Cyllid, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol:

 

 “Mae’r Cabinet yn falch o allu argymell Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor cyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor. Wrth wynebu bwlch mawr yn y gyllideb, a oedd oddeutu £16 miliwn eleni, mae’r broses i osod y gyllideb wedi bod yn dasg anferthol unwaith eto.

 

Fel y mae ein hadroddiad yn odi, mae gennym fwlch gweddillol yn y gyllideb o £0.246 miliwn i’w gau yn erbyn rhagolygon cyllideb diwygiedig o £16.315 miliwn.

 

Er mwyn cau’r bwlch gweddillol ar Gam Tri'r broses Gosod Cyllideb, ac yn seiliedig ar gyngor y swyddog (fel y nodier yn 1.42 yr adroddiad), rydym wedi paratoi ar gyfer ymgodiad yn y grant penodol gwasanaethau cymdeithasol.Amcangyfrifwn y bydd yr ymgodiad mewn grant ar gyfer Sir y Fflint yn £0.426 miliwn.Yn seiliedig ar y cyngor cenedlaethol diweddaraf, rydym yn hyderus y gallwn ddyrannu’r grant hwn yn erbyn gwariant sydd wedi’i gynllunio’n barod ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2020/21. Byddwn yn defnyddio £0.246 miliwn o’r grant i gau’r bwlch.

 

Rydym wedi ymrwymo i gapio unrhyw gynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor i 5.0%.O ystyried y dylwn fod â £0.180 miliwn o ymgodiad grant penodol gwasanaethau cymdeithasol ychwanegol, gyda chyllideb gytbwys, bwriadwn leihau’r cynnydd i Dreth y Cyngor i 4.75%.

 

Y cynnydd gwirioneddol mewn Treth y Cyngor ar gyfer gwariant gwirioneddol y Cyngor fydd 4.5%.Unwaith i’r cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru o 0.25% gael ei ychwanegu i’n ffigwr – y cyfanswm yw 4.75%.Ar ein biliau Treth y Cyngor nid yw ardoll Awdurdod Tân ac Achub yn cael ei ddangos ar wahân.Mae’n bwysig bod y cyhoedd yn deall bod y cynnydd ar eu biliau yn cynnwys y ddau.

 

Ar gyfer talwr Treth y Cyngor, y cynnydd ‘llinell sylfaen’ cyfartalog ar gyfer aelwyd Band D – unwaith i braesept yr Heddlu a praesept Cynghorau Cymuned a Thref gael eu cynnwys – yw 4.68%.Mae rhan y Cyngor o’r ffi yn gyfystyr â £60.83 ar gyfer y flwyddyn gyfan a £5.07 bob mis.

 

Nid ar chwarae bach yr ydym ni’n pennu lefelau Treth y Cyngor. Byddai’n well gennym osod Treth y Cyngor yn nes at CPI.Fodd bynnag, mae’r cynnydd blynyddol rydym yn ei awgrymu tua’r cyfartaledd a ddisgwylir i Gymru, gyda rhai cymdogion yng Ngogledd Cymru heb ddewis ond gosod Treth y Cyngor ar gyfradd uwch.Mae Treth y Cyngor yn dod yn anghynaladwy ac ni ddylai Llywodraethau ddibynnu arni i wneud iawn am setliadau cyllid cenedlaethol annigonol.Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ffigwr canllaw ar gyfer cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar draws Cymru ar 7.1%.Mae hyn yn addefiad gan Lywodraeth Cymru fod eu cyllid nhw’n annigonol i ddiwallu’r galw.Wrth fod yn 2.35% o dan y ffigwr canllaw, gall Sir y Fflint ddangos eu bod yn gwarchod y talwr Treth y Cyngor rhag gofynion afresymol.

 

Er ein bod ni bellach mewn sefyllfa i gydbwyso ein cyllideb flynyddol, rhywbeth a ymddangosai’n annhebygol pedwar mis yn ôl, nid ydym yn hunanfodlon o gwbl.Byddwn yn wynebu nifer o risgiau agored yn ystod y flwyddyn, ac unwaith eto byddwn angen bod yn ddarbodus wrth reoli ein cyllidebau yn llym.Mae ein cronfeydd wrth gefn a balansau ar eu lefel isaf erioed.  Bydd yn hanfodol ein bod yn sefydlogi ac yna’n datblygu ein cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Mae angen sicrwydd ar Sir y Fflint, a’r holl gynghorau eraill yng Nghymru, yngl?n â chyllidebau gan lywodraethau.Ni allwn fynd drwy'r cylch blynyddol hwn o gynllunio ar gyfer yr anhysbys - gyda'r holl ofid a phryder a ddaw yn sgil hyn i gynifer o bobl sy'n dibynnu arnom.

 

Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i osod rhagolygon tair blynedd ar gyfer cynlluniau gwariant cyhoeddus, i weithio gyda'r cenhedloedd datganoledig i gytuno ar gynlluniau twf realistig ar gyfer eu cyllidebau datganoledig, i sicrhau bod canfod datrysiad cenedlaethol i ariannu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth a gosod strategaeth genedlaethol ar gyfer ariannu dyfarniadau cyflog blynyddol y sector cyhoeddus.Rydym bellach yn disgwyl ymgodiadau blynyddol mewn cyllid llywodraeth gan Lywodraeth Cymru o leiaf 4%.

 

Rydym yn cefnogi argymhellion (1) i (8) yn barod ar gyfer y Cyngor prynhawn heddiw, gyda’r diwygiadau canlynol:-

 

Argymhelliad 5: ‘Bod y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i’r Cyngor yn seiliedig ar gyfrifon o fewn yr adroddiad hwn ac o ystyried (1) y cyfraniad y bydd cyllid llywodraeth cenedlaethol ychwanegol yn ei wneud (2) cynigion Cam Tri ar gyfer datrysiadau ariannol corfforaethol a (3) yr ymgodiad disgwyliedig  yn y grant penodol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol o £0.426 miliwn’.

 

Argymhelliad 6: ‘Bod y Cabinet yn argymell y cynnydd blynyddol mewn Treth y Cyngor o 4.5% ar gyfer anghenion y Cyngor.Unwaith i ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei ychwanegu y cynnydd llawn i Dreth y Cyngor fydd 4.75%.’

 

            Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod angen rhaglen gyllido tair blynedd gan nad all y Cyngor barhau i weithredu a chynllunio ar sail blwyddyn i flwyddyn.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr pe cyflwynir cyllid gwaelodol, byddai hyn yn gyfystyr â thua £0.500 miliwn ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, i’w roi i gronfeydd wrth gefn a balansau i dalu am y risgiau a nodwyd. Mynegodd ei ddiolch i swyddogion Strydwedd a Cludiant a Thai am y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y stormydd diweddar.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi a derbyn y rhagolygon cyllideb diwygiedig ar gyfer 2020/21 (mae’r rhagolygon yn nodi gofyniad y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol a’r bwlch yn y gyllideb sydd i’w gau yng ngham tri);

 

 (b)      Nodi bod (1) y rhagolygon diwygiedig yn seiliedig ar strategaeth rheoli risg a (2) bod y ‘risgiau agored’ sy’n weddill yn cael eu rheoli yn ystod 2020/21;

 

 (c)       Nodi’r dadansoddiad o’r Setliad Cyllideb Llywodraeth Leol Dros Dro, a chyfraniad y bydd y cyllid cenedlaethol ychwanegol yn ei wneud i gau’r bwlch yn y gyllideb;

 

 (d)      Cymeradwyo’r cynigion ar opsiynau cyllido corfforaethol er mwyn cyfrannu at gau’r bwlch gweddillol yn y gyllideb;

 

 (e)      Bod y Cabinet yn argymell cyllideb cyfreithiol a chytbwys i’r Cyngor yn seiliedig ar gyfrifon o fewn yr adroddiad hwn ac o ystyried (1) y cyfraniad y bydd cyllid llywodraeth cenedlaethol ychwanegol yn ei wneud (2) cynigion Cam Tri ar gyfer datrysiadau ariannol corfforaethol a (3) yr ymgodiad disgwyliedig  yn y grant penodol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol o £0.426 miliwn;

 

 (f)       Bod y Cabinet yn argymell y cynnydd blynyddol mewn Treth y Cyngor o 4.5% ar gyfer anghenion y Cyngor. Unwaith i ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei ychwanegu y cynnydd llawn i Dreth y Cyngor fydd 4.75%;

 

 (g)      Nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig; a

 

 (h)      Bod y Cyngor yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ymrwymo i dymor canolig tair blynedd.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2020

Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/02/2020

Accompanying Documents: