Manylion y penderfyniad

Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2018-19 and complaints against Flintshire County Council 2019-20

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To share the Ombudsman’s Annual Letter 2018/19 and provide an overview of complaints against Council services in the first half of 2019/20.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Cyswllt â Chwsmeriaid yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru 2018-19 ynghyd â throsolwg o gwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor yn hanner cyntaf 2019/20. Yn ogystal, nododd yr adroddiad rymoedd deddfwriaethol newydd yr oedd disgwyl i’r Ombwdsmon eu gweithredu ar ddechrau 2020.

 

Er y cafwyd cynnydd cyffredinol yn nifer y cwynion am awdurdodau lleol Cymru yn ystod y cyfnod, croesawodd yr Ombwdsmon y camau a gymerwyd i leihau’r nifer hon trwy ddatrys yn gynnar. Yn Sir y Fflint, arhosodd nifer y cwynion a dderbyniwyd yn erbyn y Cyngor yn gymharol sefydlog gyda 70% yn cael eu hystyried yn rhy gynnar gan nad oedd yr achwynwyr wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r Cyngor yn llawn cyn cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Yn ystod hanner cyntaf 2019-20, derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 371 o gwynion a dangoswyd gwelliant mewn amserau ymateb. Wrth gydnabod meysydd ar gyfer gwelliant a dysgu cyffredinol, roedd nifer o gamau gweithredu wedi’u cynllunio, gan gynnwys adolygiad o weithdrefnau.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am y berthynas gadarnhaol rhwng y swyddogion a swyddfa’r Ombwdsmon. Wrth groesawu’r adborth ar ddatrys cwynion yn gynnar, dywedodd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed mewn ymateb i’r camau a gytunwyd yn y gweithdy. Ers y gweithdy, nid oedd yr Aelodau wedi codi unrhyw batrymau cwyno penodol yr oeddent am iddo eu hadolygu a mynd i’r afael â nhw.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bateman, esboniodd y swyddogion fod y nifer uchaf o gwynion am Gynllunio wedi adlewyrchu’r duedd ar draws y DU. Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Cadeirydd ar y meini prawf ar gyfer cwynion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mullin at faint y sefydliad a dywedodd yr ymdriniwyd â nifer y cwynion lefel isel yn brydlon.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor:

(a)       Yn nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (2018-19) a chwynion lleol a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn hanner cyntaf 2019-20;

 

(b)       Yn cefnogi adolygiad y Cyngor o’i weithdrefn gwyno o dderbyn polisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Ombwdsmon i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; ac yn

 

(c)       Cefnogi’r camau a amlinellwyd yn 1.18 yr adroddiad i wella’r dull o drafod cwynion.

Awdur yr adroddiad: Rebecca Jones

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: