Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
organisational Change Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor. Dywedodd fod yr eitemau canlynol wedi eu hychwanegu i’r Rhaglen i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 27 Ionawr.
- Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd
- Adnewyddu cytundeb Gwasanaeth AURA
Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf ar dracio camau gweithredu a chyfeiriodd at y cam gweithredu oedd yn codi o gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf yn ymwneud â Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor a Gwasanaeth a Rennir gyda Wrecsam. Dywedodd nad oedd yna unrhyw gamau gweithredu yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chyflwyno fel a gymeradwywyd;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: