Manylion y penderfyniad
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
The purpose of this report is to present, for
recommendation to Council, the Housing Revenue Account (HRA) Budget
for 2020/21, the HRA Business Plan and the summary 30 year
Financial Business Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr Adroddiad Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA).
Ar 18 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru penderfyniad y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y Polisi Rhent Llywodraeth Cymru i ddechrau yn 2020/21. Roedd y Polisi Rhent wedi’i osod am gyfnod o bum mlynedd a gwnaethpwyd yn glir bod y setliad polisi rhent yn uchafswm a ellir godi ffi, a dylai landlordiaid ystyried gwerth am arian ochr yn ochr â fforddiadwyedd i denantiaid, fel rhan o’u sail resymegol ar gyfer gosod rhent.
Nododd y Polisi Rhenti ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol 2020/21 y canlynol:
· Ymgodiad blynyddol hyd at CPI+1% am bum mlynedd tan 2024/25 gan ddefnyddio lefel CPI o’r mis Medi blaenorol i bob blwyddyn. 1.7% ym mis Medi 2019.
· Gallai lefel rhenti ar gyfer tenantiaid unigol gael eu lleihau, eu rhewi neu eu codi hyd at £2 yn ychwanegol yn ogystal â CPI +1%, ar amod bod cyfanswm incwm rhent a gesglir gan y landlord cymdeithasol ddim yn cynyddu mwy na CPI+1% (2.7%).
Roedd y cyfartaledd newydd i rent a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Byddai uchafswm codiad o 2.7% (CPI+1%) yn cymryd y cyfartaledd rhent a delir yn 2020/21 hyd at £96.57 a oedd yn uwch na rhan isaf o’r targed band rhent.
Yr opsiwn a argymhellwyd oedd rhoi codiad cyffredinol o 1.7% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sydd o dan y targed rhent. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw denant unigol yn talu mwy na’r uchafswm a ganiateir dan y polisi, ac yn ailgyfeirio’r gwahaniaeth rhwng y rhenti hynny o dan ac ar rhent darged, ac yn ceisio gwneud newidiadau rhent i bob tenant yn fwy teg.
Roedd y cynnydd mewn rhent garej ar gyfer 2020/21 yn £1.22 yr wythnos gyda chynnydd plot garet yn £0.20 yr wythnos. Amlinellwyd tâl gwasanaeth yn yr adroddiad. Yn 2019/20, roedd y Cyngor yn adfer 70% tâl gwasanaeth i weithredu ffioedd, ac argymhellwyd y byddai’r cynnydd mewn tâl gwasanaeth i wneud y Cyfrif Refeniw Tai adfer cost llawn yn cael ei wneud dros y ddwy flynedd i ddod yn 2020/21 a 2021/22.
Yn ogystal, amlinellodd yr adroddiad fuddsoddiad parhaus y Cyngor yn ei stoc dai drwy Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a rhaglen adeiladu newydd, gyda chyfanswm lefel y buddsoddiad yn 2020/21 yn £30.464M.
Croesawodd Aelodau’r adroddiad a rhoddwyd sylw ar ansawdd stoc dai'r Cyngor sydd yn rhywbeth mae angen ymfalchïo ynddo.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21.
(b) I gymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent hyd at 1.7% (yn ogystal â hyd at £2);
(c) Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent garej ar gyfer 2020/21 yn £1.22 yr wythnos gyda chynnydd plot garej yn £0.20 yr wythnos.
(d) Cymeradwyo’r cynnydd fesul cam mewn adfer Tâl Gwasanaeth.
(e) I nodi sail resymegol tu ôl i’r lefel gynyddol o arian wrth gefn yn 4%,a
(f) Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf HRA 2020/21 arfaethedig.
Awdur yr adroddiad: Rachael Corbelli
Dyddiad cyhoeddi: 23/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/01/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/01/2020
Dogfennau Atodol:
- Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan PDF 151 KB
- Appendix A - Summary HRA Rent Charges 2020/21 PDF 60 KB
- Appendix B - Draft 30 Year HRA Financial Business Plan Summary PDF 108 KB
- Appendix C - Draft Capital Programme 2020/21 PDF 76 KB
- Appendix D - Draft Pressure and Efficiencies 2020/21 PDF 65 KB
- Appendix E - HRA Account Narrative PDF 1 MB