Manylion y penderfyniad
Social Value
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To update Cabinet on the progress made in
delivering the Council’s social value aspirations and to
discuss the draft policy for social value.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Gwerth Cymdeithasol a oedd yn ceisio Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft a fyddai’n creu fframwaith galluogi i gryfhau’r dull i gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy wariant caffael y Cyngor.
Roedd gan y Cyngor ymrwymiad strategol i ddarparu gwerth cymdeithasol gwell drwy’r gwaith yr oedd yn ei wneud, a oedd yn golygu cael buddion gwell i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i’w wariant a darpariaeth gwasanaeth.
Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent gynhyrchu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a sut y gellid mesur hynny. Roedd yr amcanion hirdymor wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, ochr yn ochr â manylion cyfleoedd mawr lle gellid ychwanegu gwerth cymdeithasol sylweddol yn y rhaglen, sef:
· Caffael yn y dyfodol o adeiladu cartrefi Cyngor;
· Ailddatblygu Theatr Clwyd;
· Rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif.
· Ymestyniad Marleyfield House; a
· Buddsoddiad gan Aura yn y dyfodol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r prif meysydd o ddarpariaeth gwerth cymdeithasol yn y 12 mis nesaf yn cynnwys:
· Cefnogi rhaglen tlodi bwyd Sir y Fflint;
· Lleihau tlodi tanwydd;
· Cefnogaeth i leihau defnydd ynni a gwastraff;
· Gwella bioamrywiaeth;
· Cefnogi Cyfamod Y Lluoedd Arfog;
· Hyrwyddo cael cyfle cyfartal;
· Darparu cyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith;
· Cynyddu’r defnydd o gwmnïau lleol yn y gadwyn gyflenwi;
· Lleihau digartrefedd;
· Teithio llesol a chludiant cymunedol;
· Cynhwysiant digidol a chysylltiad;
· Cefnogi mentrau sy’n gyfeillgar i Ddementia; a
· Cefnogi rhaglen "WeMindTheGap”.
Byddai’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod buddion pendant yn cael eu darparu tuag at y themâu hynny.
Rhoddwyd manylion dwy astudiaeth achos, datblygiad y Ganolfan Gofal Dydd Oedolion newydd yn Shotton a darpariaeth gwelliannau arbed ynni domestig ar gyfer aelwydydd sydd yn dlawd ar danwydd yn yr adroddiad.
Croesawodd Bithell yr adroddiad, yn arbennig y meysydd ar gyfer darpariaeth yn y 12 mis nesaf, a gwelwyd cysylltiadau â blaenoriaethau’r Cyngor, megis yr ymateb i’r her o newid hinsawdd a chyflawniadau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y trefniadau caffael rhanbarthol.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi'r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma i ddarparu gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint, a bod y camau arfaethedig nesaf yn cael eu cadarnhau; a
(b) Cadarnhau’r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 23/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/01/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/01/2020
Accompanying Documents: