Manylion y penderfyniad
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2018/19
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Hwylusydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2018/23 sy’n darparu dadansoddiad ar flaenoriaeth ‘Cyngor Cefnogol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%).
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at ddangosyddion perfformiad sy’n dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.Cyfeiriodd at dudalen 154 yr adroddiad, IP1.5.2.1 ar nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol ar gyfer oedran 75+, ac adroddodd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnooddau Corfforaethol wedi atgyfeirio’r dangosydd perfformiad ar Oedi mewn Trosglwyddiad Gofal a oedd yn dangos patrwm negyddol er ystyriaeth pellach y Pwyllgor. Cynigodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Integredig Oedolion ei sylwadau ar yr heriau a’r gwaith sylweddol a wnaed gan dîm ymroddedig o staff i sicrhau nad yw pobl yn aros yn yr ysbyty am hirach na’r angen ac yn gallu dychwelyd i amgylchedd diogel pan mae’r gofal yn parhau, os oes angen.Cyfeiriodd hefyd ar y gefnogaeth a ddarperir i sicrhau bod pobl yn osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty os yw’n bosib.
Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalennau 151 (IP 1.4.1.3) a 153 (IP 1.4.3.3.)yr adroddiad. Darparodd Swyddogion eglurhad o ran y dadansoddiad a gyflwynwyd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: