Manylion y penderfyniad
Regional Learning Disability Service Report on Progress
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update to the Regional Project
Board in relation to the “Seamless Services for People with
Learning Disabilities” project.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddarparu diweddariad i’r Bwrdd Prosiect Rhanbarthol mewn perthynas â “Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd:Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu” a noddir gan Lywodraeth Cymru.Cyflwynodd Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen, Gwasanaethau Di-dor ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu i’r cyfarfod.
Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y pum ffrwd waith a nodwyd yn y Strategaeth Anableddau Dysgu, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cynghorodd bod Sir y Fflint yn arwain ar y ffrwd waith newid Cymuned a Diwylliant ac maent wedi’u cynnwys, ymysg pethau eraill, mewn prosiectau o amgylch y cyfle i feddwl yn wahanol am ddefnydd taliadau uniongyrchol, chwiliad prosiect, perthnasau a phertnasau carwriaethol, yn ogystal â’r ymgyrch ‘aros i fyny’n hwyr’. Estynodd y Brif Swyddog wahoddiad i'r Rheolwr Rhaglen i roi drosolwg o’r rhaglen ‘Gwasanaethau Di-dor ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu’.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Rhaglen y byddai'n darparu rhagor o wybodaeth ar ddarpariaeth addysg ryw i bobl ifanc yn dilyn y cyfarfod.
Diolchodd y Cadeirydd y Rheolwr Rhaglen i’r Prif Swyddog a’i dîm, am eu gwaith caled. Dywedodd bod y camau a’r mentrau sy’n cael eu cynnal i gefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn gaboledig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r mentrau o fewn y rhaglen ac yn cefnogi’r cynnydd a wnaed.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: