Manylion y penderfyniad
School Attendance and Exclusions
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide a report to members on the
portfolio’s performance in relation to school attendance and
exclusions for 2017-18; an overview of the Educational Social Work
Team and a revised schedule for future reporting.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) adroddiad ar berfformiad y portffolio o ran presenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer 2017-18; trosolwg o’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer adrodd yn y dyfodol. Dywedodd y byddai’r fformat diwygiedig yn sicrhau bod gan yr Aelodau’r cyfle i ystyried a chwestiynu’r data a byddai hyn yn cefnogi monitro pellach o gynnydd yn erbyn yr argymhellion o’r arolygiad Estyn diweddar yn ymwneud â phresenoldeb a gwaharddiadau.
Esboniodd yr Uwch Reolwr bod presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint yn dangos tuedd gyffredinol o leihad, gyda salwch yn gyfrifol am y mwyafrif o absenoldebau. Roedd y lefelau o absenoliaeth parhaus yn gymharol uchel. Yn unol â’r tueddiadau cenedlaethol, roedd y lefelau o waharddiadau parhaol a chyfnod penodol yn cynyddu, yn enwedig o fewn ysgolion uwchradd.
Cododd y Cynghorydd Dave Mackie sawl pwynt yngl?n â chysondeb a fformat y data ar bresenoldeb yn y tablau yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Soniodd am waharddiadau a phwysleisiodd yr angen i ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn eu cadw ym myd addysg a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar weddill bywyd plentyn. Siaradodd am yr angen i ddarparu cyllid digonol i ysgolion i gefnogi’r ddarpariaeth honno. Cytunodd yr Uwch Reolwr i ddiwygio fformat y data a gyflwynwyd yn y tablau ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol ac fe ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie. Cyfeiriodd hefyd at bwrpas gwaharddiadau a soniodd am y gwaith a wnaed gan ysgolion i sicrhau creadigrwydd wrth ddefnyddio cosbau. Dywedodd bod cyllid yn broblem fawr o ran sut y gallai ysgolion fod mor effeithiol a chefnogol ag yr oeddent yn dymuno bod wrth ymdrin ag ymddygiad amhriodol.
Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai’r Awdurdod yn cyflwyno cais am gyllid grant ar gyfer iechyd meddwl a byddai modd ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant a phecynnau unigol i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc. Soniodd hefyd am yr angen i weithio’n agos â’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod y systemau a’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan ysgolion mor effeithiol â phosibl.
Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad ysgolion unigol gan Estyn yn nodi bod ymddygiad disgyblion yn ysgolion Sir y Fflint yn dda. Fodd bynnag, roedd angen cydnabod bod pobl ifanc yn fwyfwy agored i faterion yn ymwneud â chyffuriau a’r effaith yr oedd profiadau anodd yn ystod plentyndod yn ei gael ar blant. I gloi, soniodd y Prif Swyddog am yr angen am ymyrraeth arbenigol a dywedodd bod “plentyn wedi’i wahardd yn blentyn mewn perygl”. Dywedodd bod disgwyl i ysgolion wneud y penderfyniad i wahardd disgybl yn ofalus iawn ac ystyried a oedd dewis arall i ymdrin â’r mater ar yr pryd.
Fe soniodd Mr David Hytch am absenoldebau anawdurdodedig yn ystod y tymor. Roedd yr Uwch Reolwr yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd y byddai ysgolion yn cael eu herio yngl?n â lefel yr absenoldeb y maent yn ei awdurdodi, a allai arwain at lefel gynyddol o absenoldeb anawdurdodedig ar draws y sir. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y gall disgyblion gael 10 diwrnod o wyliau sy’n gysylltiedig ag absenoldeb fesul blwyddyn academaidd, ac ychydig iawn o blant yn Sir y Fflint sy’n cymryd mwy na’r lwfans 10 diwrnod.
Soniodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin am y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan sefydliadau trydydd sector i helpu pobl ifanc oresgyn eu hanawsterau.
Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am y rhestr aros i weld seicolegydd plentyn a dywedodd fod angen cyflogi mwy o staff arbenigol i ymdrin â materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Soniodd hefyd am effaith bwlio mewn ysgolion ac fe ddywedodd y gallai hyn achosi problemau i blant yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Dywedodd y Prif Swyddog fod gan yr holl ysgolion bolisïau rheoli ymddygiad cadarn wedi’u dylunio i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion ac i amlinellu’r canlyniadau os nad oeddent yn ymddwyn yn briodol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gwaith sylweddol a wnaed mewn ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles a’r systemau oedd ar waith i sicrhau fod materion ymddygiadol yn cael eu rheoli a’u cefnogi’n gyflym ac yn effeithiol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cyfraniad a wnaed gan sefydliadau trydydd sector i gefnogi’r plant hynny dan fygythiad.
Awdur yr adroddiad: Jeanette Rock
Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: