Manylion y penderfyniad

To approve the annual report and accounts

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfrifydd y Gronfa  Bensiynau’r eitem hon ar y Rhaglen, gan ddechrau drwy ymddiheuro bod tudalennau 109 a 110 yr adroddiad a ddosbarthwyd i aelodau'r Pwyllgor yn wreiddiol yn anghywir, a bod disodliadau wedi'u dosbarthu i'r aelodau wedi hynny.  

 

            Eglurodd y byddai rhifau'r tudalennau'n cael eu hychwanegu at Dudalen Gynnwys yr adroddiad ar ôl i'r Pwyllgor gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol. Eglurodd hefyd nad oedd dogfennau polisi a llywodraethu statudol sydd i’w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol ond sydd wedi’u cymeradwyo eisoes gan y Pwyllgor wedi’u cynnwys yn y fersiwn a anfonwyd at y Pwyllgor, er eu bod ar gael ar wefan y Gronfa. Byddent yn cael eu hychwanegu at yr adroddiad pan fyddai’n cael ei gyhoeddi ar y wefan. 

 

            Atgoffodd y Pwyllgor bod yr Adroddiad Blynyddol yn awr yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

            Diolchodd i’r aelodau sydd wedi cysylltu â’r swyddogion gyda mân addasiadau cyn y cyfarfod a chadarnhau y byddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol sy’n cael ei gyhoeddi.

 

            Eglurodd bod yr adroddiad yn ofynnol o dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a’u bod wedi dilyn canllawiau Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) wrth ei gynhyrchu. 

 

            Strwythur yr adroddiad oedd bod yr Ymgynghorydd Annibynnol i’r Gronfa a’r Bwrdd Pensiynau wedi cynhyrchu adroddiadau blynyddol a bod swyddogion ac ymgynghorwyr allweddol hefyd wedi cynhyrchu adroddiadau ar gyfer eu meysydd o arbenigaeth.  Roedd yr adroddiadau hyn  yn ffurfio darnau unigol o’r adroddiad.  Eglurodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau beth oedd yn cael ei drin ym mhob un rhan.

 

            O ran negeseuon allweddol, yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa 2017/18, roedd yr heriau mwyaf oedd yn wynebu'r Gronfa yn 2018/19 wedi'u nodi, ac mae adroddiad 2018/19 yn egluro'r cynnydd yn erbyn pob un o’r rhain.   Yn benodol, mae'r Gronfa yn parhau i dderbyn enillion buddsoddiad positif ac wedi diogelu rhai enillion buddsoddiad yn sgil heriau'r farchnad; wedi trosglwyddo rhai asedau i Bartneriaeth Pensiynau Cymru (WPP) a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod 2019/20; wedi mesur effaith gymdeithasol y Gronfa ac yn cynllunio i'w wella; ac mae wedi gwneud cynnydd pellach yn erbyn y targedau yn y Strategaeth Weinyddu a’r Strategaeth Gyfathrebu, er bod cynnydd yng ngweithgarwch a chynnydd yng nghymhlethdod y Gronfa yn golygu bod heriau i'w diwallu o hyd, a fydd yn cael ei helpu'n rhannol drwy'r defnydd o adnoddau ychwanegol.

 

            Nododd yr adroddiad yr heriau mawr ar gyfer 2019/20.  Y rhain oedd adolygu Strategaeth Gyllid y Gronfa yn sgil prisiad 2019; ac adolygu Strategaeth Fuddsoddi'r Gronfa; i barhau i drosglwyddo asedau i'r WPP; datblygu gwaith y timau Gweinyddu a Chyfathrebu ymhellach; gweithredu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r cynllun; ac ystyried unrhyw welliannau sy'n deillio o ymgynghoriad LGPS ar Lywodraethu Da, y disgwylir adroddiad amdano yn 2019/20. 

 

            Roedd y tair rhan o’r adroddiad oedd yn weddill yn trafod gweithgarwch ariannol yn ystod 2018/19.  Adran 7 oedd y Datganiad Cyfrifon, y fersiwn drafft a gymeradwywyd gan Drysorydd y Gronfa a’i gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiynau ym mis Mehefin 2019. Yr unig fater sylweddol a nodwyd yn ystod yr archwiliad oedd camddosbarthu ffioedd rhwng uniongyrchol a gwaelodol, oherwydd rhywfaint o gamddosbarthu gan Reolwyr Buddsoddi a rhywfaint o wallau dynol.   Dim ond ffioedd uniongyrchol sy’n cael eu cynnwys yn y  cyfrifon, tra bo’r holl ffioedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad blynyddol.   Canlyniad y gwall oedd cynyddu’r ffioedd uniongyrchol yn y cyfrifon o £1.5m, ond nid oedd yn effeithio ar waelodlin y Gronfa Gyfredol na’r Datganiad o Asedau Net.    Nododd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau newidiadau i atal hyn rhag digwydd eto’n y dyfodol, gan gynnwys defnyddio adnoddau ychwanegol, gwella systemau a chyfathrebu.  Mynegodd bryder y gallai'r templed cenedlaethol newydd y bydd disgwyl i reolwyr y gronfa ei gwblhau yn 2019/20 achosi rhywfaint o ddryswch, er y gwneir pob ymdrech i osgoi hyn.  

 

            Roedd Adran 8 yn ymdrin â llif arian 2018/19 a chyllideb treuliau gweithredol.   Y rheswm dros y prif amrywiadau o ran arian parod oedd gwahanol ddosbarthiadau a symiau tynnu i lawr i’r hyn a ddisgwyliwyd, mae’n anodd amcangyfrif y ddau.  Bu rhywfaint o ailfantoli’r portffolio yn 2018/19. Y prif amrywiant yn erbyn y gyllideb weithredol oedd ffioedd rheoli, o ganlyniad i fenter tryloywder costau a ffioedd perfformiad ychwanegol fel buddsoddiadau yn aeddfedu a’r gwerthoedd yn symud yn unol â'r perfformiad.

 

            Roedd Adran 9 yn cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, a gyflwynwyd ym Mhwyllgor mis Mehefin a gwnaed mân addasiadau iddo.  Byddai hyn yn gofyn am ardystiad ynghyd â’r Datganiad Cyfrifoldebau a oedd hefyd yn yr Adroddiad Blynyddol. 

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio o Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad ac egluro bod yr archwiliad wedi'i gwblhau'n sylweddol.   Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro yn y cyfrifon ac roedd yr archwilwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth oedd yn ofynnol i gwblhau eu gwaith.   Tynnodd sylw at y camddatganiad a gywirwyd mewn perthynas â’r ffioedd rheoli a drafodwyd yn gynharach.  Nid oedd unrhyw faterion sylweddol eraill yn deillio o’r archwiliad ac nid oedd pryderon am arferion cyfrifo nac adrodd ariannol y Gronfa.   Nododd y byddai angen ardystio’r Llythyr Sylwadau. 

 

            Gofynnodd y Cyng Bateman am eglurhad pellach ar y Polisi Cyfrifo ar arian cyfredol yn Nodyn 3 y Datganiad Cyfrifon.   Eglurodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau bod hyn yn ofynnol gan fod rhai o asedau’r Gronfa’n cael eu dal mewn arian nad yw’n sterling, a sefydlodd y polisi’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i brisio’r asedau hyn mewn sterling er mwyn eu cynnwys yn Natganiad o Asedau Net y Gronfa. 

 

            Gofynnodd y Cyng Bateman am ragor o wybodaeth am y cyfeiriad at IFRIC 23 yn Nodyn 2.   Eglurodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau bod y nodyn yma'n ei gwneud yn ofynnol bod y Gronfa yn datgelu safonau cyfrifo newydd a fyddai'n dod i rym yn y flwyddyn ariannol ganlynol, 2019/20 yn yr achos hwn. Er nad oedd yn sicr beth fyddai'r eglurhad penodol mewn perthynas â Threth Incwm, cadarnhaodd y byddai'n annhebygol iawn y byddai'n cael unrhyw effaith materol ar gyfrifon y Gronfa. 

 

            Gofynnodd y Cyng Bateman am y rheswm dros yr amrywiant mewn perthynas â gwariant y Bwrdd Pensiynau o gymharu’r ffioedd gwirioneddol ar gyfer ymgynghorydd â’r gyllideb.   Eglurodd Dirprwy Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd bod y cyngor a oedd yn ofynnol i alluogi’r Bwrdd Pensiynau i gyflawni ei fusnes yn llwyddiannus wedi bod yn fwy na’r disgwyl.   Roedd hyn wedi’i gydnabod drwy gynnydd yng nghyllideb y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2019/20 a oedd hefyd yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

            Gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach cymeradwyodd y Pwyllgor Pensiwn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Pensiwn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 24/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/10/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: