Manylion y penderfyniad

Local Development Plan: Confirming renewable energy local areas of search

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To confirm the extent of the Flintshire Deposit Local Development Plan renewable energy local areas of search on the proposals map, to form part of the public consultation on the Plan commencing on 30th September 2019.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gadarnhau cwmpas ardaloedd chwilio lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint ar fap cynigion, i ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i gychwyn 30 Medi 2019.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (CDLl) yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd mis Medi. Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod, dywedodd nad oedd y rhan o’r CDLl ar Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy wedi cael ei chynnwys yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf gan nad oedd y gwaith wedi’i gwblhau eto. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn i’r Cyngor lunio adran yn y CDLl ar y mater pwysig hwn i gynorthwyo’r Llywodraeth i gyflawni ei tharged i gynhyrchu 70% o’r trydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae’r elfen hon o’r CDLl wedi’i chwblhau erbyn hyn, ac fe’i cyflwynir i‘w chymeradwyo yn dilyn chwiliad cynhwysfawr i ganfod tir o fewn y Sir i ddarparu ffermydd gwynt neu ffermydd solar i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at leoliad Sir y Fflint a’r cyfyngiadau naturiol o ran dyrannu tir ar gyfer ffermydd gwynt mawr, ond dywedodd fod mwy o gyfleoedd i ddyrannu tir ar gyfer ffermydd solar, a chyfeiriodd at y ddarpariaeth bresennol yn Sir y Fflint ynghyd â datblygiadau newydd. Cynigiodd y Cynghorydd Bithell yr argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndirol ac eglurodd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ganfod Ardal Chwilio. Rhoddodd gyflwyniad ar y broses a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau a ganlyn:          

 

  • pwrpas 
  • beth yw Ardaloedd Chwilio, a’r hyn nad ydynt?
  • y potensial o ran ffermydd gwynt
  • y potensial o ran ffermydd solar
  • Ardaloedd chwilio Lleol Solar PV

 

Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu hymroddiad a’u gwaith caled o ran cwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer y CDLl, ac am adroddiad cynhwysfawr a llawn gwybodaeth a oedd yn dangos pa mor drylwyr oedd chwiliad y Sir. Eiliodd y Cynghorydd Peers gynnig y Cynghorydd Bithell.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y CDLl oedd 30 Medi i 11 Tachwedd 2019.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson o ran Gwastadeddau ac SSI Holway ac ynghyd â’i gais y dylid eu dileu o’r CDLl arfaethedig, cytunodd y Prif Weithredwr i drafod y materion gyda’r Cynghorydd Johnson cyn cyflwyno’r CDLl ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a oedd p?er trydan d?r wedi cael ei archwilio o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gyfarwyddeb yn canolbwyntio ar b?er gwynt a solar, fodd bynnag, roedd yr Awdurdod bob amser yn edrych ar y potensial o ran adnoddau adnewyddadwy eraill, a dywedodd fod cynllun trydan d?r bach wedi’i gynllunio ar gyfer Cei Connah.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo’r Ardaloedd Chwilio Lleol Dangosol ar gyfer ynni adnewyddadwy sydd i’w dangos ar y map cynigion a’r polisi cysylltiedig sydd i’w gynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y CDLl Adneuo;

 

(b)          Cymeradwyo’r diwygiadau i bolisi EN13 Datblygu Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel y CDLl Adneuo a amlygwyd yn yr adroddiad hwn; ac

 

(c)          Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Economi a’r Amgylchedd) i wneud unrhyw fân newidiadau ychwanegol o ran geirio, gramadeg, rhai golygyddol, neu gartograffig i’r CDLl Adneuo, a fydd efallai’n codi neu’n angenrheidiol cyn yr ymgynghoriad ffurfiol, i sicrhau cysondeb gyda sylfaen dystiolaeth barhaus y CDLl ac i gynorthwyo gyda chyflwyno’r Cynllun yn derfynol.

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: