Manylion y penderfyniad
Council Tax Discount Scheme for Foster Carers
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval of the policy framework of the Discount Scheme for Foster Carers following previous approval of the scheme in principal in June 2019.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr Maeth oedd yn cynnwys dull y Cyngor ar gyfer dyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth Lleol.
Roedd cyflwyno’r cynllun yn rhan o Gynllun y Cyngor 2019/2023 a strategaeth i wella modelau gwasanaeth maethu trwy wella taliadau lleol ar gyfer plant nad yw eu teuluoedd yn gallu gofalu amdanynt.
Un o’r prif amcanion oedd sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chadarn o Ofalwyr Maeth mewnol i ddarparu gofal ar gyfer plant lleol a chynnig Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol, o Ebrill 2020, a fyddai’n rhan allweddol o becyn cymorth ehangach i Ofalwyr Maeth mewnol.
Eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r gost gychwynnol o gynnig gostyngiad o 50% i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol yn gyfystyr â £92k y flwyddyn, ond y byddai modd adennill y swm hwnnw pe bai dim ond tri o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol ar gyfer cyfnod o 12 mis yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell, fel Cadeirydd Fforwm Gwasanaethau Plant, bwysigrwydd y gwaith a wneir gan Ofalwyr Maeth a chroesawodd y cynllun.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cam o gyflwyno Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol, i ddod i rym o Ebrill 2020; a
(b) Chymeradwyo’r Fframwaith Polisi, fel y mae wedi’i gynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad, sy’n amlinellu dull y Cyngor o ddyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 04/01/2020
Dogfennau Atodol: