Manylion y penderfyniad
Capital Strategy Including Prudential Indicators 2020/21 – 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present the Capital Strategy 2020/21 – 2022/23 for recommendation to Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ynghylch y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020/21 - 2022/23 a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gyfalaf y Cyngor i’w hargymell i’r Cyngor.
Esboniodd yr adroddiad yr angen am y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob adran.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac nid oedd unrhyw fater i’w gyflwyno i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor; a
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 - 2022/23 fel y’u nodwyd o fewn Tabl 1 a 4-7 yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf;
· Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/11/2019
Dogfennau Atodol: