Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme (Social & Health Care)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a godwyd o’r cyfarfodydd blaenorol. Eglurodd bod y camau gweithredu sydd i’w penderfynu yn parhau ar yr adroddiad tracio camau gweithredu tan y bydd wedi'u datrys, ac yn cael eu hadrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 3 Hydref. Dywedodd bod eitem ychwanegol ar y Strategaeth Mabwysiadu Gofal Maeth yn cael ei ychwanegu ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Gan gyfeirio at yr eitemau sydd i’w trafod yn y cyfarfod i’w gynnal ar 12 Rhagfyr, dywedodd yr Hwylusydd y bydd eitem ychwanegol ar y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol yn cael ei gynnwys ar agenda’r cyfarfod.
Dywedodd yr Hwylusydd y bydd eitem ar yr Adolygiad o Strategaethau Atal Lleoliadau Tu allan i'r Sir yn cael eu cynnwys ar y rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i'w ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol, gan ystyried cael gr?p tasg a gorffen neu weithdy os bydd angen yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: