Manylion y penderfyniad
Integrated Autism Service
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide members with a progress report of
the local implementation of the Integrated Autism Service
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu adroddiad ar ddiweddariad ar gynnydd gweithrediad lleol o’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS).
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Anabledd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at fenter Llywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ledled Cymru. Dywedodd bod gan Rhanbarth Gogledd Cymru gyllideb blynyddol o £615,800 i ddatblygu IAS a oedd yn bennaf yn cyflenwi costau staffio ar gyfer y Gwasanaeth, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol. Soniodd Rheolwr Gwasanaethau Anabledd am y brif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd at sut mae’r gwasanaeth yn gweithredu, data perfformiad, goblygiadau o ran adnoddau a rheoli risg.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Anabledd defnyddiwr gwasanaeth i’r cyfarfod a gwahoddodd hi i roi gwybodaeth am ei phrofiad personol o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Soniodd y defnyddiwr gwasanaeth am y gefnogaeth a buddion a chafodd gan y gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a’r gwahaniaeth yr oedd wedi gael ar ei bywyd. Hefyd dywedodd am ei dyheadau am y dyfodol a lle’r oedd yn teimlo y gellir gwneud gwelliannau pellach i’r Gwasanaeth. Diolchodd y Cadeirydd i’r defnyddiwr gwasanaeth am ei phresenoldeb ac am ei hymatebion i gwestiynau’r Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis am yr amseroedd aros i asesu pobl sydd yn dangos Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Anabledd bod yr amser aros am asesiad ar hyn o bryd yn 26 wythnos, fodd bynnag, nid oedd y Gwasanaeth yn foddhaol a roedd yn trefnu i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, nyrsys enwol, therapyddion iaith a lleferydd, i gyflawni hyfforddiant i'w galluogi i gyflawni asesiadau. Eglurodd nad oedd rhaid i unigolion aros am ddiagnosis cyn cael cymorth.
Soniodd y Cynghorydd Ellis am y dyraniad blynyddol o £615,800 ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru i ddatblygu IAS, a mynegodd safbwynt na fydd hyn yn ddigonol i fodloni anghenion y Gwasanaeth. Dywedodd bod y rôl a chyfrifoldeb ychwanegol yn cael ei roi ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r bwlch yn narpariaeth gwasanaeth i Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig, heb y cyllid ar gyfer yr adnoddau. Cynigiodd y Cynghorydd Ellis i gynnwys argymhelliad ychwanegol yn yr adroddiad i gofnodi bod y Pwyllgor yn bryderus ynghylch y ffaith nad oedd y swm o adnoddau a ddyrannir i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ddigonol i fodloni galw’r gwasanaeth. Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham yn eilio.
PENDERFYNWYD:
(a) I nodi diweddariad ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig Gogledd Cymru;
(b) Bod y Pwyllgor yn fodlon bod cynnydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i fodloni’r dyletswyddau ar ran y rhanbarth;
(c) Bod y Pwyllgor yn bryderus nad yw’r swm o adnoddau a ddyrannir i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ddigonol i fodloni galw’r Gwasanaeth; a
(d) I nodi’r gwahaniaeth y mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi’i gael ar bobl sydd ag Awtistiaeth.
Awdur yr adroddiad: Jo Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: