Manylion y penderfyniad

Employment and Workforce Quarterly update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

This report covers strategic updates in addition to the quarterly workforce statistics and their analysis.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Busnes a Chydymffurfiaeth adroddiad gwybodaeth gweithlu ar chwarter cyntaf 2019/20 a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad a thueddiadau sefydliadol.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, cytunwyd y byddai adroddiadau dangosfwrdd y dyfodol yn cynnwys ffigyrau am drosiant gweithwyr yn ogystal â chanrannau.

 

 O ran y dirywiad mewn lefelau presenoldeb, roedd cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol yn parhau i weithio gyda phortffolios i fynd i’r afael ag absenoldebau oherwydd straen, iselder a gor-bryder sef y rhesymau a gofnodir fwyaf o hyd. Roedd dadansoddiad data manwl wedi canfod bod y mwyafrif o’r absenoldebau hynny yn gysylltiedig â materion bywyd, er enghraifft ymdopi â phrofedigaeth. Byddai’r gwasanaeth ‘CareFirst’ yn cael ei ail-lansio yn dilyn cynnydd yn nifer y gweithwyr sy’n defnyddio’r gefnogaeth honno.

 

Y ffigwr mwyaf diweddar o ran cwblhau arfarniadau oedd 83%. Roedd disgwyl i’r adroddiad chwarterol nesaf ddarparu darlun mwy cywir a byddai Prif Swyddogion yn cael eu galw i fod yn atebol am unrhyw lithriant yn eu portffolios.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunodd y Prif Weithredwr y gellid rhannu’r model arfarnu newydd gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn friffio cyn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach, darparodd yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Busnes a Chydymffurfiaeth eglurhad am ddata ar gyfer trosiant a sefydlogrwydd mewn ysgolion. Nododd hefyd mai nifer y lleoliadau asiantaeth gweithredol oedd 89 yn hytrach na 94.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r ddadl, eu gwneud gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad Gwybodaeth Cyflogaeth a’r Gweithlu ar gyfer Chwarter 1, 2019/20;

 

(b)       Bod yr adroddiad, yn y dyfodol, yn cynnwys ffigyrau yn ogystal â chanrannau ar gyfer trosiant gweithwyr; a

 

(c)       Bod y model arfarnu newydd yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn friffio cyn cyfarfod yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: Andrew Adams

Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: