Manylion y penderfyniad
On Street Car Parking in Town Centres
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval to redesignate a town centre car park in Buckley to provide some free, short stay car parking.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Barcio ar y Stryd mewn Canol Trefi a oedd yn cynnig datrysiad a fyddai’n cydbwyso’r ddarpariaeth o ofodau parcio arhosiad byr am ddim ym Mwcle i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael mewn trefi eraill ar draws y Sir yn well. Hefyd, roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun peilot i gael gwared ar y gorchymyn pedestreiddio presennol a oedd yn weithredol yng nghanol tref Bwcle ar hyn o bryd, i wella mynediad i’r dref. Byddai’r cynnig yn amodol ar dderbyn cefnogaeth Cyngor Tref Bwcle o’r cynnig.
Roedd argaeledd nifer fechan o ofodau parcio arhosiad byr am ddim mewn canol tref yn hanfodol er mwyn caniatáu i siopwyr wneud ymweliadau byr i gasglu neges. Nid oedd cynllun y ffordd o amgylch Bwcle yn caniatáu darpariaeth parcio ar y stryd. Cynigiwyd ail-ddyrannu rhan o faes parcio Brunswick Road i gynnig gofodau parcio am ddim am hyd at hanner awr, a fyddai’n darparu 18 gofod ychwanegol ar gyfer ymweliadau byr â chanol y dref.
Ers cyhoeddi’r rhaglen, roedd cyfarfod wedi’i gynnal gyda’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant), y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwald, y Rheolwr Menter ac Adfywio a chynrychiolwyr o Gyngor Tref Bwcle. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, cyflwynwyd y cynigion ger bron y Cyngor Tref a nododd ei fod yn cefnogi’r cynnig, ar yr amod bod cyfnod yr arhosiad byr yn newid o hanner awr i 1 awr. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i asesu costau’r awgrym hwnnw a sicrhau ei fod o fewn cwmpas y Strategaeth Maes Parcio.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddent yn cael gwared ar y gorchymyn pedestreiddio ar sail cynllun peilot ac y byddai llwyddiant y cynllun yn cael ei fesur, yn debyg iawn i’r hyn a wnaethpwyd yn Nhreffynnon yn ddiweddar, lle cyflwynwyd cyfrifon busnes cyn ac ar ôl y cynllun peilot i asesu’r gwahaniaeth o ran ffigyrau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cynnig i ail-ddyrannu adran o faes parcio Brunswick Road ym Mwcle i ddarparu gofodau parcio arhosiad byr am ddim fel iawn am y prinder o ofodau parcio arhosiad byr ar y stryd o fewn canol y dref; a
(b) Chefnogi’r Cynllun Peilot i ddiddymu'r parth cerddwyr yng nghanol tref Bwcle a chymeradwyo cyflwyniad trefniant o’r fath am gyfnod penodol, sydd yn ddigonol i fesur yr effaith ar nifer yr ymwelwyr yn y dref. Byddai cyflwyno’r cynllun peilot yn amodol ar dderbyn cefnogaeth Canol Tref Bwcle o’r cynigion.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 03/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 31/10/2019
Dogfennau Atodol: