Manylion y penderfyniad

Improving the in-house offer for out of County Placements for Children

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide information on the proposals to improve the in- house offer for out of CountyPlacement provision.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ac esboniodd fod lleoliadau y tu allan i’r sir yn un o’r materion mwyaf sy’n wynebu pob Awdurdod Lleol ar draws y wlad. Esboniodd fod dod o hyd i ofal a chymorth o ansawdd da yn Sir y Fflint yn broblem fawr ac yn her i’r Cyngor gan nad oedd digon o adnoddau ar gael i ateb y galw statudol. Roedd y Cyngor yn gwbl gefnogol ond y swm o arian a oedd yn dod i mewn i’r Cyngor oedd y gwir broblem. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 37 o’r adroddiad a oedd yn amlinellu costau’r lleoliad ac esboniodd sut roedd hyn yn cael effaith ar gyllidebau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd llawer o waith yn cael ei wneud o fewn y portffolio, yn Sir y Fflint, Rhanbarth Gogledd Cymru ac yn ehangach, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.

 

            Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod hon yn her genedlaethol ac nad oes un ateb syml i’r broblem, a bod angen sawl haen o waith er mwyn gallu darparu gwahanol atebion a chynigion i nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth. Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd cymorth yn cael ei ddarparu yn y cartref, i aelodau’r teulu, maethu a gofal preswyl. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiaeth o fentrau roedd eu hangen er mwyn ail-lunio’r cynnig a gynigir i blant a theuluoedd a nodwyd bod rhoi cymorth yn fuan yn flaenoriaeth er mwyn galluogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd, hyd yn oed os nad oedd hynny bob amser yn bosibl mewn rhai achosion. Aeth ymlaen i gyfeirio’r Aelodau at dudalen 12 o’r adroddiad a rhoddodd wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r tair uchelgais graidd:-

 

·         Lleihau’n ddiogel nifer y plant y mae angen iddynt dderbyn gofal

·         Rhoi cymorth i blant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau lleol o ansawdd uchel

·         Gwella canlyniadau plant sy’n derbyn gofal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am esboniad pellach o’r term ‘sgiliau ochrol’ /‘side skill’ ym mhwynt 1.10 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at nifer y plant 16 oed sydd wedi cael diffyg addysg neu sy’n gwrthod addysg a dywedodd pan fyddai unigolyn ifanc yn rhoi’r gorau i dderbyn addysg roedd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar y gofalwyr maeth ac yna’n rhoi straen ar y system gyfan. Roedd yn credu y dylid cyflwyno cynllun ar gyfer y bobl ifanc hyn a fyddai’n rhoi rhywbeth iddynt ei wneud os nad oeddynt mewn addysg, ac a fyddai’n rhoi gobaith iddynt i’r dyfodol.

 

            Ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) gan esbonio sut byddai gweithwyr ‘sgiliau ochrol’ yn gweithio gyda gweithwyr ieuenctid er enghraifft, gan eu bod nhw mewn sefyllfa dda i feithrin perthynas ac ennill ymddiriedaeth y bobl ifanc hyn yn fuan ac i sylwi pan fyddai’r sefyllfa’n dirywio.  Roedd y swyddogion hyn eisoes yn rhan o weithlu Sir y Fflint oedd yn gweithio gyda phlant ond roedd y dull gweithredu ‘sgiliau ochrol’ yn eu galluogi i nodi a chynnig cymorth therapiwtig a chyfeirio plant yn ôl yr angen. Byddai hyn yn ychwanegol at eu rolau presennol. Roedd yn cytuno â sylwadau’r Cynghorydd Mackie yngl?n â phobl ifanc yn ymbellhau oddi wrth addysg a dywedodd fod gweithio gydag ysgolion yn allweddol ond roedd y problemau yn eang ac amrywiol iawn.

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod llawer o blant Blwyddyn 10 yn ymbellhau oddi wrth addysg. Roedd swyddogion yn ystyried amryw o gynlluniau i ymgysylltu â’r bobl ifanc hyn a rhoddodd enghraifft o gr?p o bobl ifanc a oedd yn gweithio gyda phlymar er mwyn eu hannog i ddychwelyd i hyfforddiant ac addysg.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yn bosibl i’r bobl ifanc hyn gael mynediad hawdd a syml at sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli tymer. Atebodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) gan ddweud fod nifer o swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth ofalgar yn ymweld ag ysgolion i hyfforddi staff neu i gynnig cyrsiau i bobl ifanc ond nid oedd yn gwybod a oedd hyn yn cael ei gynnig drwy’r gwasanaeth iechyd. Roedd hyfforddiant Rheoli Tymer wedi cael ei gynnig mewn partneriaeth gyda GwE er mwyn cynorthwyo athrawon i dawelu sefyllfaoedd mewn ysgolion.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hinds at dudalen 37 o’r adroddiad lle nodwyd bod y ffigyrau wedi codi o £3m i £5m mewn 3 blynedd a gofynnodd y cwestiynau canlynol:-

 

·         A oedd nifer y lleoliadau yn y sir yn annigonol i ateb y galw?

·         A yw anghenion yr unigolion yn fwy cymhleth?

·         A oedd gostyngiad wedi bod yn y cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru?

 

Hefyd, gofynnodd beth allai’r Aelodau ei wneud i helpu swyddogion.

 

            Atebodd y Prif Swyddog mai ‘ie oedd yr ateb i’r tri chwestiwn. Roedd nifer yr unigolion wedi cynyddu dros y tair blynedd ond roedd cyfartaledd Sir y Fflint yn dal i fod yn is na chyfartaledd Cymru, sef 247 ar y cyfrif diwethaf, ac yn hanesyddol roedd y niferoedd rhwng 180 a 200.  Roedd y rhesymau dros hyn yn gymhleth ac roedd llymder a chredyd cynhwysol yn ffactorau, ynghyd â nifer mawr o achosion lle’r oedd mabwysiadu wedi bod yn aflwyddiannus. Roedd costau lleoliadau wedi cynyddu ac roedd yn rhaid i’r Cyngor gystadlu am leoliadau, a dyna pam roedd Sir y Fflint yn gweithio i gynyddu’r cyflenwad o ofal drwy ofalwyr maeth a gyda gofal a thrwsio. Cafwyd rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru (LlC) ond nid oedd hyn yn ddigonol i ateb y galw. Byddai cefnogaeth yr Aelodau i godi ymwybyddiaeth am y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor o ran lleoliadau y tu allan i’r sir yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.


           
Cynigiodd y Cynghorydd Hinds y dylid ysgrifennu llythyr at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol LlC yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch yr angen am adnoddau digonol i ateb heriau lleoliadau y Tu allan i’r Sir. Cafodd y cynnig hwn ei eilio a’i gefnogi gan y Pwyllgor.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Geoff Collett at y cynnydd o 50% ers 2016 yn y gost o ddarparu gofal; roedd yn teimlo bod y sefyllfa yn mynd allan o reolaeth a gofynnodd a oedd disgwyl i’r costau barhau i godi. Hefyd, cyfeiriodd at gynlluniau blaenorol fel Cychwyn Cadarn a Tai Noddfa i Ferched a gofynnodd a oedd rhagor o blant yn cael eu rhoi mewn gofal yn sgil colli’r cynlluniau hyn.

 

            Mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf, esboniodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y term ‘tu allan i’r sir’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pob math o wasanaethau gan gynnwys plant mewn gofal preswyl yn Sir y Fflint. Ystyr ‘tu allan i’r sir’ yw bod gwasanaethau yn cael eu prynu y tu allan i ddarpariaeth y Cyngor.  Nid oedd yn bosibl iddo ddweud i sicrwydd na fyddai’r ffigyrau hyn yn dal i godi. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod rhai cynlluniau llwyddiannus yn dal i fodoli, fel Dechrau’n Deg, ac roedd cadw’r gwasanaethau hyn yn rhoi mantais i’r Cyngor dros awdurdodau eraill. Mae cael gwasanaethau da ar gyfer cymunedau dan bwysau a thargedu teuluoedd mewn perygl yn gweithio, ac un ffactor allweddol yn y mater hwn oedd lleihau nifer y plant ar gyrion gofal sy’n dod i mewn i’r system ofal.

 

            Cyfeiriodd Mr David Hytch at yr adroddiad a dywedodd fod cydberthynas agos rhwng plant sy’n derbyn gofal a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, a’r farn gyffredinol oedd mai ysgol prif ffrwd oedd y lle gorau ar gyfer y plant hyn os oeddynt yn gallu ymdopi ac os oedd cymorth addas ar gael yn yr ysgol honno. Cyfeiriodd at yr Uned Cyfeirio Disgyblion a gofynnodd am sicrwydd fod ysgolion ar draws Sir y Fflint yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw disgyblion mewn ysgolion prif ffrwd; hefyd, gofynnodd faint o gymorth oedd yn cael ei ddarparu i ysgolion.

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod yr allgymorth sydd ar gael yn gyfyngedig ar hyn o bryd ond dywedodd fod staff wedi gallu nodi strategaethau priodol a dulliau gwaith llwyddiannus. Roedd cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu i ysgolion ac roedd y modd roedd y cyngor hwnnw’n cael ei ddehongli wedi bod yn llwyddiant. Hefyd, cynigiwyd darpariaeth tymor byr i ysgolion uwchradd drwy gyfrwng yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer nifer o sesiynau yr wythnos dros gyfnod o 12 wythnos. Cyfeiriodd hefyd at y cynnydd a wnaed ym Mhlas Derwen a fyddai’n darparu rhagor o adnoddau ac allgymorth. Mae gallu ysgolion i gadw’r disgyblion hyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ganddynt, ond gallai ysgolion wneud cais i’r Panel Cymedroli i gael adnoddau ychwanegol er mwyn cynorthwyo’r plentyn hwnnw. Roedd annog ysgolion i fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddiant ac i gydweithio gyda’i gilydd hefyd yn allweddol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa mor agos roedd y Gwasanaethau Plant yn cydweithio gyda Gwasanaethau Plant Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy, ac a oedd yn bosibl iddynt rannu adnoddau. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod Sir y Fflint yn gweithio’n agos iawn gyda’r rhanbarth ar brosiectau penodol fel y Tîm Amlddisgyblaeth (cydweithrediad rhwng Wrecsam a Sir y Fflint) ac roedd y Datganiad Sefyllfa’r Farchnad Ranbarthol yn edrych ar wasanaethau roedd eu hangen yn lleol, yn is-ranbarthol ac yn rhanbarthol. Rhoddodd enghreifftiau i’r pwyllgor. Ychwanegodd nad oedd y cyllidebau hyn yn cael eu cyfuno, yn hytrach roeddynt yn enghreifftiau o weithio ar y cyd.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at weithwyr ieuenctid a gofynnodd pa mor dda maent yn cael eu hyfforddi ac a ydynt yn ymweld ag ysgolion cynradd i siarad gyda phlant cyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y gweithwyr ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.  Roedd gan Sir y Fflint dîm hynod fedrus a chymwysedig iawn a oedd yn ymgysylltu gyda phobl ifanc ar draws pob math o sefyllfaoedd ac yn rhyngweithio mewn ffordd nad oedd yn bosibl i athrawon ei wneud.  Petai unigolyn ifanc yn dod atynt am gymorth ond ni fyddent yn gallu eu helpu, byddent yn cyfeirio’r unigolyn hwnnw i gael y cymorth roedd ei angen arno. Amlinellodd arbenigedd y tîm a oedd yn datblygu’n barhaus ac yn mynd i’r ysgolion i feithrin perthynas gyda disgyblion a rhoddodd wybodaeth am yr effaith gadarnhaol roedd hyn yn ei chael ar y disgyblion a’r ysgolion. Yna, cyfeiriodd at gwestiwn cynorthwywyr addysgu ac roedd o’r farn bod perygl y gallai’r dysgwr ddod yn ddibynnol ar yr unigolyn hwnnw ac y gellid darparu cymorth Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY) gan yr athro yn ogystal â’r cynorthwyydd addysgu.  Cyfeiriodd at waith ymchwil gan Ymddiriedolaeth Sutton a ddaeth i’r casgliad nad oedd o fudd i ddatblygiad y plentyn. Roedd athrawon yn gweithio’n hynod o galed i wella sgiliau llythrennedd eu plant. Cytunodd yr Uwch Reolwr a dywedodd fod yn rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o’r sefyllfa ac osgoi creu dibynniaeth. Mae Cynorthwywyr Addysgu yn ddefnyddiol iawn mewn sawl maes yn yr ysgol ond roedd cael cymorth arbenigol i’r plentyn yn allweddol.

 

            Roedd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid yn cytuno’n llwyr, a chyfeiriodd at ei brofiad yn y maes fel pennaeth ysgol. Roedd y berthynas rhwng y plentyn a’r cynorthwyydd dosbarth yn gallu bod yn gymhleth ac roedd angen i’r plentyn dyfu mor annibynnol â phosibl oherwydd gallai gael ei weld fel plentyn oedd bob amser yng nghwmni oedolyn a gallai hyn beri problem yn yr ysgol uwchradd. Roedd yn hollol dderbyniol i gynorthwywyr addysgu fod ar gael mewn rhannau eraill o’r ysgol, cyn belled â’u bod hefyd ar gael i roi cymorth i’r plentyn, petai angen.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Hinds a oedd cyllideb yr ysgol yn talu am y costau o ddarparu cymorth i blentyn yn ystod y cyfnod pan fyddai’r datganiad yn cael ei baratoi. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod tystiolaeth o fantolenni diwedd blwyddyn yr ysgolion yn awgrymu bod gan yr ysgolion adnoddau digonol ar gyfer hyn. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) mai diben datganiad oedd nodi’r meysydd pwysicaf o ran angen a byddai’n anorfod fod adnoddau ychwanegol ynghlwm â’r unigolyn y cyfeiriwyd ato yn y datganiad. Gallai pob ysgol yn Sir y Fflint gyflwyno achos gerbron Panel Cymedroli er mwyn dyrannu adnoddau ychwanegol.  Mae cyllidebau ysgolion hefyd yn cael eu cynhyrchu drwy ddefnyddio fformiwla sy’n cynnwys gwybodaeth ar lefel yr anghenion addysgol arbennig ar draws yr ysgol er mwyn sicrhau bod cyllid digonol ar gael i gefnogi anghenion disgyblion.

 

            Roedd y Cynghorydd David Williams yn ymwybodol o’r cyfyngiadau perfformiad ac ariannol mewn ysgolion a gofynnodd a oedd unrhyw un o’n hysgolion yn gallu addasu eu cwricwlwm i gadw’r plant hyn yn eu hysgol, gan gyflwyno cwricwlwm ar gyfer unigolion neu grwpiau bach o bobl. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod yn gallu gwneud hyn, ac mai cyfrifoldeb y Pennaeth oedd gofalu am anghenion y disgyblion yn eu hysgolion ac roedd tipyn o waith creadigol yn cael ei wneud i gwrdd ag anghenion pob plentyn.  Cafodd y cwricwlwm newydd ei gynllunio o amgylch yr egwyddorion craidd ond roedd gan ysgolion fwy o ymreolaeth i ddatblygu a bodloni eu hanghenion penodol. Roedd mwy o hyblygrwydd yn yr ysgolion erbyn hyn. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr fod disgyblion yn cael mynediad at amrywiaeth o gyrsiau ac roedd potensial i ddatblygu pecyn i gynorthwyo unigolion yn yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Y dylid cefnogi’r Strategaeth Cymorth a Lleoliad drafft 2019-2022; ac

 

(b)     Y dylid ysgrifennu llythyr, ar ran y Pwyllgor, at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch yr angen am adnoddau digonol i gwrdd â’r heriau yn ymwneud â lleoliadau y Tu allan i’r Sir.

Awdur yr adroddiad: Craig Macleod

Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 25/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: