Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (Outturn) and Capital Programme Monitoring 2018/19 (Outturn)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present the revenue budget outturn position for the Council Fund and Housing Revenue Account, and the Capital Programme outturn position for 2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) i Aelodau a chyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol). Byddai’r ddau adroddiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar 16 Gorffennaf, ac roeddent wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chyfeiriodd at gostau parcio ceir. Dywedodd fod angen nodi a gwahaniaethu rhwng cyllideb a gwasanaeth craidd. Cyfeiriodd at feysydd o orwariant a dywedodd y dylai’r Cyngor edrych ymlaen ac nid yn ôl i leihau unrhyw orwariant posibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: