Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Environment Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

 

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cafwyd cyflwyniad byr gan y Prif Swyddogion ar y gwasanaethau o fewn eu portffolios er mwyn helpu’r Pwyllgor i feddwl am eitemau i’w cynnwys ar yr agenda yn y dyfodol.

 

Awgrymwyd y pynciau canlynol:

 

·         Rheoli Adeiladu – yn cynnwys effaith newidiadau yn y farchnad archwilio adeiladau ac edrych ar gyfleoedd pellach i gyflawni gwasanaethau i gynghorau eraill

·         Systemau draenio cynaliadwy

·         Gwasanaeth Cefn Gwlad

·         Cynllunio Gwastraff a Mwynau – yn cynnwys darparu gwasanaethau allanol ar draws y rhanbarth

·         Cysylltedd Digidol

·          Thema ‘Cyngor Gwyrdd’ yng Nghynllun y Cyngor i gynnwys gwasanaethau ynni, paneli solar, golau stryd a phlastig

·         Ymateb y Cyngor i’r agenda Newid Hinsawdd

·         Menter/Adfywio Canol y Dref – yn cynnwys proses Ardal Gwella  Busnes i’w drefnu ar gyfer dechrau 2020

·         Parciau Batris – helpu i addysgu cymunedau ar yr effeithiau

·         Fflyd trydaneiddio

·         Darparu mynwentydd a’r strategaeth

·         Adolygu gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf

·         Gwasanaethau Masnachol

·         Caniatáu gwastraff a llif data

·         Canolfan Gyswllt

·         Parcio ceir – costau, gorfodaeth a gwneud y mwyaf o incwm drwy drwsio peiriannau diffygiol yn brydlon

·         Polisi codi tâl/mynegeio

·         Safonau gwasanaeth

·         Gorfodaeth

·         Polisi torri gwair a pherfformiad (yn cynnwys ail-ddosbarthu’r safonau y cytunwyd arnynt) – yn cynnwys rheoli blodau gwyllt

·         Effaith gwaith ffyrdd gan gwmnïau cyfleusterau

·         Polisi cwrb isel ac arferion

·         Biniau gwastraff gardd – maint, costau a’r posibilrwydd i ddarparu ail fin am ddim

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) i roi fersiwn diweddar i’r Aelodau o’r ddogfen drafft ‘Pwy ‘di Pwy’ ar ôl ei orffen yn derfynol. Awgrymodd y Cynghorydd Evans i’r ddogfen derfynol gynnwys mwy o rifau cyswllt defnyddiol os yw’r ddogfen yn mynd i fod ar gael i’r cyhoedd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ddogfen dros dro nes bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hymgorffori yn y Ganolfan Gyswllt. Tynnodd sylw at bwynt y Cynghorydd Hughes am rannu rhifau ffôn symudol gwaith y swyddogion.

 

Meddai’r Cynghorydd Bibby y byddai dogfen debyg gyda manylion cyswllt portffolios eraill yn ddefnyddiol.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle am argaeledd swyddogion ac amseroedd ymateb. Eglurodd y Prif Swyddogion am fanteision rhif canolog y Ganolfan Gyswllt (701234) ar gyfer cofnodi galwadau a chymryd camau dilynol. Roedd opsiynau yn cael eu hystyried i leihau’r amser disgwyl i’ch galwad gael ei ateb, a byddai casgliad o wahanol dimau mewn un Canolfan Gyswllt corfforaethol yn Ewloe yn golygu gwell cymhwysedd.   Cafodd aelodau lleol eu hatgoffa i adael i’w Cydlynwyr Ardal wybod am unrhyw achosion penodol ar y manylion cyswllt â rannwyd eisoes.

 

Dangosodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddogion am eu cyflwyniadau manwl a gofynnodd iddyn nhw ddiolch i’r tîm Strydwedd am eu gwaith yn helpu cymunedau yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar.  Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hynny.

 

Yn ystod trafodaeth ar y pynciau a awgrymwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr angen i wasanaethau torri gwair i gael ei wneud gan nifer o dimau oherwydd yr amrywiaeth o offer sydd ei angen.  Ar finiau gwastraff gardd fe eglurodd mai diben yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol oedd i sefydlu’r polisi mynegeio. Dywedodd y Cynghorydd Evans y dylai’r adroddiad fod wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor gyntaf.

 

Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y rhestr o bynciau yn cael eu hystyried gan y swyddogion, ar y cyd â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i gynnwys ystod o bynciau ar y cyd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Cafodd hynny ei gynnig gan y Cynghorydd Bibby a’i eilio gan y Cynghorydd Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diolch i’r swyddogion  am eu cyflwyniadau ar eu portffolios;

 

(b)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(c)       Bod y rhestr o bynciau a nodwyd yn ystod y cyfarfod yn cael eu dadansoddi gan y swyddogion i lunio ystod o bynciau ar y cyd, i’w ymgynghori gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd;

 

(d)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gwblhau’r camau gweithredu yn weddill.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 07/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: