Manylion y penderfyniad
Internal Audit Charter
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To outline to Members the updated Internal
Audit Charter.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad yngl?n â chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r Siarter er mwyn bodloni’r gofynion cyfreithiol a rheoleiddio, a’r awgrymiadau a wnaethpwyd yn sgil yr asesiad allanol diweddar o gydymffurfiaeth gwasanaethau. Gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu arferion gwaith presennol, terminoleg a swyddi o fewn y Cyngor.
Wedi i Sally Ellis ofyn cwestiwn yngl?n ag adran 4.13, cadarnhawyd nad oedd y Rheolwr Archwilio Mewnol yn gyfrifol am unrhyw wasanaethau y tu hwnt i Archwilio Mewnol. Roedd yr adran wedi’i chynnwys yn y Siarter fel y gellid cyflwyno trefniadau diogelu priodol pe byddai pethau’n newid yn y dyfodol.
Rhoes y Rheolwr Archwilio Mewnol eglurhad i’r Cynghorydd Paul Johnson o’r amrywiaeth o sgiliau a chymwysterau oedd gan aelodau’r tîm Archwilio Mewnol, a oedd yn bodloni gofynion y Cod Moeseg yngl?n â chymhwysedd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol fel y’i diwygiwyd.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: