Manylion y penderfyniad

Play Sufficiency Assessment

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Play Sufficiency Assessment prior to submission to Welsh Government

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint, Marianne Mannello (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru) a'r Swyddog Dylunio Chwarae – Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’u gwahodd i gyflwyno’r adroddiad. Darparodd yr adroddiad drosolwg o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint 2019 a’r Cynllun Gweithredu Drafft ar gyfer 2019/2020. Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol dan Fesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010 i adrodd i Lywodraeth Cymru a byddai dogfen ddrafft yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o law. Roedd Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint yn ddogfen fyw gyda Chynllun Gweithredu’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol. Roedd hwn yn ofyniad statudol ac amlinellodd yr awdurdod lleol sut yr oedd yn bwriadu mynd i’r afael â diffygion a chynnal lefelau presennol yn y cynllun gweithredu. Esboniodd y Swyddog Datblygu Chwarae y byddai’r Cyngor yn gallu cael mynediad at gyllid drwy gynlluniau gweithredu tuag at gynlluniau megis y cynlluniau chwarae sirol ac y gellir darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y sir i bob plentyn.

 

Mewn ymateb i sylw ar y ceisiadau llwyddiannus am gyllid, esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod lobïo cenedlaethol yn parhau i geisio sicrhau cyllid ond roedd hyn yn dal yn ddibynnol ar yr arian oedd ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie y Swyddog Datblygu Chwarae am ei hymroddiad gan ddweud ei bod yn frwdfrydig, yn benderfynol ac yn ofalgar a bod yr adroddiad yn eithriadol o dda.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am wybodaeth ar y Strategaeth a oedd yn cysylltu meysydd chwarae a oedd yn rhan o Aura. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Datblygu Chwarae bod y Cyngor yn gysylltiedig ag Aura gyda’r Asesiad O Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a bod meysydd chwarae yn rhan fawr o hyn.

 

Yna gofynnodd y Cynghorydd Heesom sawl cwestiwn mewn perthynas â chyllid cytundeb adran 106 ar gyfer ardaloedd chwarae a ddarparwyd gan ddatblygwyr i’r ddarpariaeth Ysgol a gofynnodd a fyddai modd defnyddio peth o’r arian hyn ar gyfer darpariaeth ieuenctid a fyddai’n fuddiol iawn. Ymatebodd y Swyddog Dylunio Chwarae gan ddweud fod dwy ran i’r Cyllid Adran 106, y cyfraniad addysg a’r cyfraniad man agored cyhoeddus, ac nid oeddent yr un fath. Amlinellodd y broses o wneud penderfyniad ar gyfer dyrannu’r cyllid, boed hynny ar gaeau chwaraeon neu ardaloedd chwarae er enghraifft, cyfleusterau mannau agored cyhoeddus, a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Awdurdodau Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom fod cyllid Cytundeb 106 yn swm sylweddol o arian a gofynnodd sut yr oedd y cyllid yn cael ei fonitro.Dywedodd y Swyddog Dylunio Chwarae fod adroddiad arolwg i asesu cyflwr yr holl feysydd chwarae wedi'i gynnal a’i gyhoeddi. Adroddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru ar y trafodaethau a gynhelir ar draws Gymru mewn perthynas â chyllid Cytundeb Adran 106 i edrych ar yr holl ardaloedd o fannau agored y gallai plant chwarae arnynt. Nid oedd hon yn broses hawdd ond gyda’r templed cenedlaethol roedd potensial i edrych ar le'r oedd yr arian Adran 106 wedi cael ei wario mewn ysgolion a’r posibilrwydd o ymestyn oriau agor cyfleusterau’r ysgolion a fyddai wedyn o fudd cymunedol a byddai hefyd yn cyfrannu at yr asesiad man agored a’r Cynllun Datblygu Lleol. Roedd y Cynghorydd Heesom yn falch o glywed hyn ond dywedodd nad oedd y datblygiadau bod amser yn cael eu hadeiladu yn yr ardaloedd lle'r oedd angen mannau chwarae fwyaf ac roedd o’r farn y dylid cael dull i nodi tegwch o ran y dyraniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Smith fod cynghorau dan bwysau’n ariannol a gofynnodd beth fyddai’n digwydd pe bai'r cyllid ar gyfer cynllun chwarae’r haf yn dod i ben. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Datblygu Chwarae pe na bai’r cynllun mewn lle a phe na bai’r llithriant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dderbyn byddai hyn yn bryder. Roedd y Cynllun yn galluogi cynghorau i gael mynediad at grantiau a gytunwyd gyda phartneriaid gyda chyfranogiad y cynghorau tref a chymuned a chaniataodd y ddeddfwriaeth y gallu i wneud cynnydd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith nad oedd hyn yn ofyniad cyllid statudol ar gyfer y Cyngor. Cytunodd y Swyddog Datblygu Chwarae â hynny ond dywedodd bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i asesu a sicrhau cyllid a bod hyn yn llawer haws gyda’r cynllun mewn lle i alluogi’r Cyngor i symud yn gyflym unwaith bo’r cyllid ar gael. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru heb raglen cynllun chwarae haf cynhwysfawr a heb berthnasau gwaith da â gwasanaethau mannau agored a chefn gwlad. Cyfeiriodd at y ddogfen a’r 9 mater o fewn y ddogfen honno yr oedd rhaid i’r awdurdod lleol ymateb iddynt a dywedodd fod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i asesu. Adroddodd ar yr hyn yr oedd awdurdodau lleol eraill yn ei wneud i ddarparu ardaloedd chwarae ar gyfer plant a’r cyllidebau oedd ar gael ar gyfer hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Williams at gyllid y Cytundeb Adran 106 a ddefnyddiwyd o fewn ei ward a’r berthynas waith lwyddiannus oedd gan ei gymuned â’r Swyddog Dylunio Chwarae. Roedd y Gymuned yn gallu trafod a gwella’r ddarpariaeth chwarae a oedd o fudd i’r gymuned gyfan nid yn unig yr ardal ddatblygu. Adroddodd ar gyfarfod a gynhaliwyd yn y pentref i annog cyfraniad plant drwy’r clybiau ieuenctid ac yna dosbarthwyd y wybodaeth o amgylch yr ysgolion ac ati i benderfynu pa offer chwarae fyddai plant yn ei hoffi yn yr ardaloedd chwarae.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones a oedd plant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o broses ddrafftio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2019 / 20. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Datblygu Chwarae eu bod wedi cynnwys pobl ifanc mewn sawl darn o waith a chyfeiriodd yr Aelodau ar dudalennau 5, 6 a 7 o’r ddogfen a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda 600 o blant sydd bellach wedi’i gwblhau.Roedd y Cynghorydd Tudor Jones yn falch o weld eu bod wedi ymgynghori â’r plant.

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r tîm am adroddiad ardderchog ac am y gefnogaeth yr oedd Llanasa wedi’i chael gan y Swyddog Dylunio Chwarae. Gwnaeth sylw ar y ffaith nad oedd darpariaeth ar gyfer creu a chynnal ardal chwarae ddynodedig ar safleoedd sipsiwn a theithwyr tan 2023 a gofynnodd pam nad oedd modd dwyn y dyddiad hwn ymlaen. Cadarnhawyd fod hyn yn anhysbys ar hyn o bryd oherwydd y gwaith arall a’r ddeddfwriaeth a gynhelir ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Byddai’r Swyddog Datblygu Chwarae yn darparu rhagor o wybodaeth ar y mater os yw ar gael.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin ei fod yn adroddiad ardderchog a lles ein plant a phobl o fewn y gymdeithas oedd wrth wraidd hyn. Cyfeiriodd at y Rhaglen Lles a Chymdeithasol a bod hyn wedi cyflwyno cyfleoedd eraill. Dywedodd y Swyddog Datblygu Chwarae fod y prosiectau o fewn y Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar y rhaglenni hyn ein “henydau bychain o les” a bod gennym ddyletswydd i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi drafft yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar gyfer 2019 a’r drafft o’r Cynllun Gweithredu 2019 / 20 a fydd yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth 2019; a

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygiad parhaus Gr?p Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol Sir y Fflint i ddarparu fforwm aml-asiantaeth i fonitro’r Cynllun Gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019 / 20.

 

Awdur yr adroddiad: Janet A Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: