Manylion y penderfyniad

Review of the Council’s Planning Code of Practice

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro a oedd yn darparu gwybodaeth am yr adolygiad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Safonau Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor.  Roedd y ddogfen hon yn ffurfio rhan o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn cwmpasu amrywiaeth o faterion yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio’r Cyngor. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau oedd adolygu’r holl brotocolau yn y Cyfansoddiad i sicrhau eu bod yn gyfredol.  Gwallau teipograffyddol oedd yr argymhellion yn bennaf ac roeddent wedi cael eu hamlygu. Y newid mawr cyntaf oedd newid “gall y cynghorydd” i “mae’n rhaid i’r cynghorydd” trwy gydol y ddogfen. Yr ail newid oedd ym mharagraff newydd 4.07 y Cod i amlinellu ymgysylltiad Aelodau’r Cabinet â’r Pwyllgor Cynllunio a’r goblygiadau i fuddiannau personol a rhagfarnol. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Dunbar at 5.5. yn yr adroddiad a cheisiodd eglurhad i p’un a ddylai ef fel aelod lleol geisio cyngor cyn cyfarfod gyda phreswylwyr i drafod cais cynllunio lle byddai gofyn iddo ddarparu cyngor neu ymateb i gwestiynau.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr egwyddor yn parhau yr un fath sef, os yw Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ochri ag un ochr fel Aelod lleol ac yn penderfynu gwrthwynebu datblygiad, yna ni ddylai eistedd fel Aelod o'r Pwyllgor a dim ond ymddangos fel Aelod lleol.


           
Holodd y Cynghorydd Mike Peers sut y cofnodir hyfforddiant aelodau ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio i sicrhau bod seddi gwag yn cael eu llenwi’n brydlon o bob plaid wleidyddol. Awgrymodd ef y byddai’n ddarbodus i fwy o Aelodau gael eu hyfforddi i eistedd ar y Pwyllgor ac nid fel dirprwyon yn unig.Yna cyfeiriodd at y newidiadau a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Safonau a gofynnodd a ddylai'r ddogfen gael ei rhoi i'r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir rhag ofn bod mwy o newidiadau yr hoffent eu gwneud. Awgrymodd y dylid newid argymhelliad rhif 2 i ddweud y dylai’r Cod Ymarfer Cynllunio gael ei adrodd wrth y Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.  Mewn ymateb i hynny, cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ei fod yn syniad da i’r Gr?p Strategol Cynllunio ystyried y Cod Ymarfer ond roedd yr adroddiad hwn yn rhan o adolygiad y Pwyllgor Safonau ar faterion yn ymwneud â chod ymddygiad o fewn y Cod Ymarfer a dyna pam y daeth at y Pwyllgor hwn cyn y Cyngor Sir. Awgrymodd ef, pe bai adroddiad ar wahân yn cael ei roi i’r Gr?p Strategol Cynllunio i edrych ar newidiadau eraill, gallai hynny achosi oedi cyn i’r adroddiad fynd i’r Cyngor Sir.

 

Cytunodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyda sylwadau'r Cynghorydd Peers ond dywedodd mai newidiadau bach oedd y rhain. Cyfeiriodd at bwynt 4.7 yn yr adroddiad.  Roedd ef wedi gofyn yn bersonol i'r pwynt hwn gael ei gynnwys i ddarparu eglurhad i Aelodau'r Cabinet ac Aelodau. Nid oedd unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r Polisi ond penderfyniad y Pwyllgor oedd a ddylai’r ddogfen gael ei rhoi i’r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.

 

            Holodd y Cynghorydd Ian Smith a oedd Hyfforddiant Aelodau ond yn cael ei gynnal yn ystod y dydd gan y byddai hynny’n anodd i Aelodau fel fo a oedd yn gweithio.  Cyfeiriodd wedyn at y Gr?p Strategol Cynllunio a teimlai bod hwn yn Bwyllgor cyfrinachol ac nad oedd yn agored ac yn dryloyw.                                                                                                                                                                                                

            Mewn ymateb i’r cwestiwn ynghylch Hyfforddiant Aelodau, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, pan fo Aelodau newydd yn cael eu hethol am y tro cyntaf maent yn cael cynnig hyfforddiant a ddarperir gan Brif Swyddogion i’w galluogi i eistedd ar y Pwyllgor cyn gynted ag sy’n bosibl. O ran y Gr?p Strategol Cynllunio dywedodd oherwydd natur y cyfarfod hwn a'r cyfrinachedd sy’n ofynnol, nid oedd cynnal cyfarfodydd agored yn ddefnyddiol nes bo prosiectau wedi symud ymlaen i'r cyfnod ymgynghori pan fyddai pob Aelod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.Yna darparodd enghreifftiau.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y cwestiwn yn ymwneud â hyfforddiant cynllunio a ddarperir ar ddechrau'r Cyngor newydd i holl Aelodau newydd. Roedd gofyn i Aelodau presennol o’r Pwyllgor fynychu 75% o’r hyfforddiant a gynigir ac roedd hwn yn cael ei ddarparu mewn sesiynau bore, prynhawn a gyda'r nos. Nid oedd llawer o bobl yn dueddol o fynychu’r sesiynau gyda’r nos ac ambell waith nid oeddent yn cael eu cynnal gan nad oedd unrhyw Aelodau yn dewis eu mynychu. Dywedodd y Cynghorydd David Wisinger bod Aelodau newydd yn cael “cyrsiau carlam” gan swyddogion i’w galluogi i fynychu Pwyllgor cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Neville Phillips gyda phryderon y Cynghorydd Peers nad oedd hyn wedi’i gyfeirio at y Gr?p Strategol Cynllunio. Cytunodd y Cynghorydd Patrick Heesom gyda barn y Cynghorydd Phillips y dylai hyn fod wedi mynd at y Gr?p Strategol Cynllunio yn gyntaf ond teimlai bod hwn yn adroddiad defnyddiol a chynorthwyol iawn.    Yna cyfeiriodd at sylwadau’r Cynghorydd Smith a dywedodd nad oedd y Gr?p Strategol Cynllunio yn gyfarfod cyfrinachol ond bod rhai o’r ceisiadau a ystyrir yn hynod gyfrinachol. Ailadroddodd y gallai unrhyw Aelod fynychu cyfarfod yn ôl disgresiwn y Cadeirydd. 

 

            Ychwanegodd y Cynghorydd Peers nad oedd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi a dywedodd bod Aelodau o’i gr?p wedi mynychu cyfarfodydd ac yna cyfeiriodd at y CDLl a safleoedd ymgeisiol sy'n bynciau sy'n mynnu trafodaethau gofalus.

 

            Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro gyda’r sylwadau a wnaethpwyd yngl?n â chyfrinachedd a dywedodd bod yn rhaid i Aelodau a oedd wedi gofyn am gael mynychu cyfarfodydd, am ba bynnag reswm, ddeall yr angen am gyfrinachedd.

 

            Ailadroddodd y Cynghorydd Wisinger bod cyfarfodydd agored yn cael eu cynnal ond y Cadeirydd oedd â’r disgresiwn i alluogi Aelodau i fynychu.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Peers, o ran cael y Gr?p Strategol Cynllunio i adolygu’r ddogfen, ei fod yn fodlon derbyn arweiniad y Dirprwy Swyddog Monitro ar y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)    Bod y Cod Ymarfer Cynllunio yn addas i’r diben o ran cyngor yn ymwneud a Chod Ymddygiad Aelodau, y Protocol ar gysylltiadau Swyddogion / Aelodau, a’r cyngor gweithdrefnol yn gysylltiedig â materion cynllunio, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.05 yr adroddiad hwn a’r newidiadau eraill a amlygir yn yr atodiad i'r adroddiad hwn.

 

b)    Bod y Cod Ymarfer Cynllunio yn cael ei adrodd wrth y Cyngor llawn gyda chyngor gan y Pwyllgor hwn y dylid ei newid yn unol ag argymhelliad a) uchod.

 

           

 

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/04/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: