Manylion y penderfyniad

Welfare Reform Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To support the ongoing work to manage the impacts of Welfare Reform.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar yr effeithiau yr oedd ‘Gwasanaeth Llawn’ y Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn eu cael ar breswylwyr Sir y Fflint a bod gwaith yn parhau i leddfu a chynorthwyo’r aelwydydd hynny.

 

Darparwyd manylion ar y diwygiadau lles presennol o: cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr, y cap budd-daliadau, y credyd cynhwysol ac effaith y diwygiadau lles yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod y Credyd Cynhwysol yn costio mwy nac unrhyw fudd-dal blaenorol arall i Lywodraeth y DU ond bod pobl yn derbyn llai o fudd-daliadau.  Soniodd hefyd am yr amrywiaeth i’r lefel o Gredyd Cynhwysol a dderbyniwyd, nad oedd yn helpu a dywedodd ei bod o’r farn y dylid ei ddiddymu.  Roedd yr aelodau’n cytuno â safbwyntiau’r Cynghorydd Thomas.

 

Holodd y Cynghorydd Bithell sut y gallai’r 546 o denantiaid Tai Cyngor Sir y Fflint sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd ag ôl-ddyledion rhent (tua £567,000) ddianc y sefyllfa honno.  Holodd hefyd beth y gellir ei wneud i sicrhau bod pensiynwyr cymwys yn derbyn y Credyd Pensiwn pan fyddai hynny’n berthnasol.  Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r holl faterion, gan gynnwys ôl-ddyledion rhent, ac esboniodd bod Sir y Fflint yn ardal beilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol, a bod yr effeithiau wedi bod yn fwy amlwg ar gam cynnar, o gymharu ag ardaloedd eraill.  Byddai’r Tîm Ymateb Llesiant yn parhau i ddarparu cefnogaeth cyllidebu personol i gynorthwyo preswylwyr.  O ran pensiynwyr, roedd y tîm yn parhau i fod yn rhagweithiol ac roedd mwy o bensiynwyr cymwys yn hawlio Credyd Pensiwn yn awr.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Thomas, cytunwyd y gallai’r Cyngor ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd, a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       I gefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli effeithiau y mae, ac y bydd y Diwygiadau Lles yn parhau i’w cael ar aelwydydd mwyaf agored i niwed Sir y Fflint; a

 

(b)       Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn pwysleisio’r hyn a ddysgwyd a’r problemau a brofwyd fel lleoliad peilot ar gyfer y Credyd Cynhwysol.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/07/2019

Accompanying Documents: