Manylion y penderfyniad

Flintshire Deposit Local Development Plan (2015-2030)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To recommend approval of the Deposit Local Development Plan (LDP) to County Council.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Adneuo sef cynllun defnydd tir arfaethedig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2015-2030.

 

                        Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y cerrig milltir a gwblhawyd hyd yma, a oedd yn cyd-fynd â Chytundeb Cyflenwi Diwygiedig 2019.

 

                        Roedd y Cynllun Adneuo a’r mapiau ategol o’r cynigion wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd y gwaith o baratoi’r Cynllun wedi’i esbonio yng nghyfarfodydd misol y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, ac yn dilyn gwaith caled a thrafodaethau sylweddol, roedd y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi cymeradwyo’r CDLl Adneuo.  Manteisiodd y Cynghorydd Bithell ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl Aelodau a swyddogion a fu’n rhan o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio.

 

                        Pe byddai’r CDLl yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, byddai’n cael ei gyflwyno i gyfarfod arbennig y Cyngor Sir ar 23ain Gorffennaf, cyn ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai’n cael ei gynnal am gyfnod o chwe wythnos o ddydd Llun 30ain Medi 2019 hyd at ddydd Llun 11eg Tachwedd 2019.  Diben yr ymgynghoriad oedd sefydlu a oedd y CDLl Adneuo yn bodloni’r profion Cadernid.  Byddai’n ofynnol i’r rhai a oedd yn ymateb i’r ymgynghoriad nodi pa brawf/brofion na chyflawnwyd a pham, yn ogystal â nodi pa newidiadau y dylid eu gwneud i’r Cynllun.  Byddai’r wybodaeth honno yn hysbysu ystyriaeth yr Arolygydd o gadernid y CDLl yn ystod yr Archwiliad Cyhoeddus.

 

                        Roedd y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer y CDLl gyda Llywodraeth Cymru yn golygu nad oedd yn bosibl oedi’r gwaith o’i greu ac y byddai’n rhaid glynu at y dyddiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ddiwedd mis Medi, yn arbennig gan fod y Cyngor bedair blynedd i mewn i gyfnod y Cynllun eisoes.  Un agwedd gadarnhaol o fod pedair blynedd i mewn i’r Cynllun oedd bod datblygiadau tybiannol wedi’u cyflwyno eisoes gan y datblygwyr.

 

                        Bydd sesiynau ffurfiol yn cael eu cynnal gyda phob Cyngor Treth a Chymuned cyn yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

                        Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fanylion yr amserlen eang ar gyfer y Cynllun, amserlen a oedd wedi’i hamlinellu yn yr adroddiad.

 

                        Ailadroddodd y Rheolwr Strategaeth Gynllunio sylwadau’r Cynghorydd Bithell bod gwaith y Gr?p Strategaeth Gynllunio wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y Cynllun yn gywir er mwyn arddangos ei gadernid neu ei addasrwydd i’w bwrpas, ac i ddysgu’r gwersi a brofwyd gan awdurdodau cynllunio lleol eraill.  Roedd y swyddogion o’r farn, barn a oedd wedi’i chymeradwyo gan y Gr?p Strategaeth Gynllunio, bod y CDLl Adneuo yn gadarn a chyflawnadwy a’i fod yn cynrychioli dull synhwyrol a phragmatig o gyflawni twf a datblygiad, gan gefnogi’r weledigaeth ehangach ar gyfer twf isranbarthol, gan leihau’r effeithiau ar gymunedau Sir y Fflint yr un pryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I gymeradwyo cynnwys Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Drafft Sir y Fflint 2015-2030 ac argymell i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo ar 23ain Gorffennaf 2019, i’w gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; a

 

(b)       I roi’r awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i wneud unrhyw fân newidiadau ychwanegol i eiriad, gramadeg neu unrhyw newidiadau golygyddol neu gartograffeg i’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a allai godi neu y gallai fod eu hangen cyn yr ymgynghoriad ffurfiol er mwyn sicrhau cysondeb gyda thystiolaeth barhaus y CDLl ac i gynorthwyo gyda chyflwyniad terfynol y Cynllun.

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/07/2019

Dogfennau Atodol: