Manylion y penderfyniad
Composition of Audit Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider whether to increase the number of
Members on the Audit Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol adroddiad i ystyried cyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio yn dilyn trafodaeth yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r trefniadau aelodaeth presennol a’r cyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan yr aelodau lleyg presennol a blaenorol yn gwasanaethu ar y Pwyllgor. Byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad i newid maint aelodaeth a / neu gynyddu nifer yr aelodau lleyg gael ei wneud drwy argymhelliad i’r Cyngor Sir i’w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid i faint y Pwyllgor fod yn gymesur â’r gwaith a wneir a natur y cwestiynau yn y cyfarfodydd ac argymhellodd ei bod yn haws cyflawni hyn drwy gadw nifer yr aelodau yn isel. Er y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor fod yn gytbwys yn wleidyddol, byddai unrhyw newid i gynrychioli pob gr?p gwleidyddol yn golygu cynnydd i un ar ddeg (neu ddeg o bosib) o gynghorwyr. Wrth drafod goblygiadau o ran adnoddau, eglurwyd mai’r hawl tâl ar gyfer aelod lleyg oedd £99 fesul cyfarfod yn hytrach na £128 a oedd yn berthnasol i aelod lleyg yn cadeirio cyfarfod.
Siaradodd y Cynghorydd Dolphin am yr effaith gadarnhaol gan yr aelod lleyg presennol ac awgrymodd y byddai aelod lleyg ychwanegol hefyd yn fanteisiol. Er lles tegwch, dywedodd y dylai pob gr?p gwleidyddol gael ei gynrychioli ac awgrymodd y byddai modd gwneud hyn drwy gynnig sedd y gr?p lleiaf (ei gr?p ei hun ar hyn o bryd) i’r Gr?p Annibynnol newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson fod y Pwyllgor eisoes yn weddol gytbwys rhwng y grwpiau llywodraethol a’r grwpiau gwrthwynebol. Dywedodd bod aelodaeth lai yn gyffredinol yn caniatáu i bawb sy’n bresennol gyfrannu, a siaradodd o blaid aelod lleyg ychwanegol pe bai unrhyw newid yn cael ei wneud.
Roedd y Cynghorydd Dunbobbin yn cytuno â’r Cynghorydd Johnson, gan fod y cyfarfodydd yn agored i Aelodau eraill eu harsylwi os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Nid oedd yn credu y byddai cynyddu nifer y cynghorwyr yn ychwanegu gwerth at y Pwyllgor.
Yn dilyn ei sylwadau blaenorol, cynigodd y Cynghorydd Dolphin y dylid penodi’r gr?p nad oedd wedi’i gynrychioli ar y Pwyllgor ar hyn o bryd yn lle’r gr?p lleiaf, gydag aelod lleyg ychwanegol os y cytunwyd ar hynny.
Ar y sail hon, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai’r cynnig i’w argymell i’r Cyngor nodi bod nifer y cynghorwyr yn aros yr un fath ac y dylid cylchdroi aelodaeth er mwyn caniatáu i bob gr?p gwleidyddol gymryd rhan, a phenodi ail aelod lleyg. Byddai’r trefniadau cylchdroi yn cael eu cytuno ag Arweinwyr Gr?p.
Cynigiwyd hyn yn ffurfiol gan y Cynghorydd Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn dymuno argymell i’r Cyngor, drwy Gyfarfod Blynyddol y Cyngor, y dylid cadw nifer y cynghorwyr ar y Pwyllgor Archwilio a chylchdroi aelodaeth er mwyn caniatáu i bob gr?p gwleidyddol gymryd rhan. Hefyd y dylid recriwtio aelod lleyg ychwanegol.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 01/07/2019
Dyddiad y penderfyniad: 27/03/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: